Mae nifer y plant sy’n cael eu cyfeirio at wasanaethau maethu un elusen wedi codi dros draean mewn blwyddyn, gan arwain at apêl am fwy o ofalwyr maeth.

Mae Barnardo’s yn gwneud galwad frys i annog mwy o bobol i ystyried dod yn ofalwyr maeth ar ôl i nifer y plant gafodd eu cyfeirio at wasanaethau’r elusen gynyddu 36% yn y 12 mis hyd at fis Gorffennaf.

Dros y Deyrnas Unedig bu cynnydd o 14,130 yn 2020 i 19,144 eleni. Bu cynnydd o 5% yng Nghymru, 20% yng Ngogledd Iwerddon, 40% yn Lloegr, ond gostyngiad o 7% yn yr Alban.

Fe wnaeth nifer y grwpiau o frodyr a chwiorydd a gafodd eu cyfeirio at wasanaethau’r elusen godi 31% dros yr un cyfnod.

Fodd bynnag, mae gan frodyr a chwiorydd lai o siawns o gael eu mabwysiadu gyda’i gilydd, yn ôl awgrym gan arolwg YouGov.

Dim ond 6% o oedolion Prydain fyddai’n ystyried maethu brodyr a chwiorydd, o gymharu ag 14% a fyddai’n ystyried maethu plentyn 18 oed neu iau o fewn y bum mlynedd nesaf.

Dangosodd yr arolwg pa mor bwysig yw hi fod brodyr a chwiorydd yn aros efo’i gilydd, gyda 70% yn dweud ei bod hi’n bwysig eu bod nhw a’u brawd neu chwaer wedi tyfu fyny gyda’i gilydd.

Dywedodd 60% o’r rhai ymatebodd a oedd gan frawd neu chwaer y byddai cael eu gwahanu wrth dyfu fyny wedi cael effaith negyddol arnyn nhw.

Effaith y pandemig

Dywedodd Lynn Perry o Barnardo’s fod y galw am ofalwyr yn uwch yn sgil effaith y pandemig ar deuluoedd.

“Mae’r pandemig a mesurau’r cyfnod clo wedi ychwanegu at y pwysau ar deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd, gyda cholli swyddi, tlodi dyfnach, ac iechyd meddwl gwael yn cyfrannu at ddirywiad y teulu,” meddai.

“Gallech chi roi cartref i blentyn sy’n agored i niwed pan fo mwyaf ei angen arnyn nhw. Gallai eich cariad a’ch cefnogaeth ganiatáu i frodyr a chwiorydd aros gyda’i gilydd a gwneud gwahaniaeth anferth i’w bywydau nhw – ac i’ch bywyd chi.”

Dywedodd Barnardo’s eu bod nhw’n gobeithio clywed gan bobol o bob cefndir dros y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a chymunedau LHDT.

“Gwahaniaeth gydol oes”

“Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth gydol oes i fywydau plant sy’n agored i niwed, ac rydyn ni’n annog mwy o bobol i ddod ymlaen fel bod digon o ofalwyr ar gael i gynnig cartrefi diogel, cariadus i’r plant hyn,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am yr holl blant mewn gofal yn eu hardal, gan gynnwys rhai mewn gofal maeth. Rydyn ni wedi darparu cyllid ychwanegol sylweddol er mwyn ymateb i’r pwysau newidiol ar wasanaethau plant, ac yn ystod y pandemig rydyn ni wedi’i gwneud hi’n haws i gynghorau ac asiantaethau maethu adnabod, asesu, a chymeradwyo gofalwyr maeth newydd er mwyn atal oedi mewn cynnig cefnogaeth i’r plant hyn.”

Fe wnaeth YouGov holi 2,196 o bobol rhwng Awst 17 ac 18 a fydden nhw’n ystyried maethu, a 2,039 o oedolion rhwng Gorffennaf 16 a 19 am bwysigrwydd cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd.