Mae disgwyl i Boris Johnson gyhoeddi ei gynlluniau hir-ddisgwyliedig i drwsio’r system gofal cymdeithasol yn Lloegr heddiw (Dydd Mawrth, 7 Medi).

Mae’r prif weinidog wedi dweud na fydd ei Lywodraeth “yn osgoi’r penderfyniadau anodd” wrth iddo baratoi i ddatgelu’r cynlluniau wrth Aelodau Seneddol.

Fe fydd yn amlinellu ei gynlluniau am sut mae’n bwriadu datrys yr argyfwng gofal cymdeithasol ond mae yna wrthdaro o fewn y Blaid Geidwadol yn dilyn adroddiadau y bydd Yswiriant Gwladol yn cynyddu er mwyn ariannu’n newidiadau i’r system yn Lloegr, sy’n mynd yn groes i’w ymrwymiad yn yr etholiad cyffredinol.

Yn ogystal ag amlinellu’r cynlluniau i gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) i adfer wedi Covid, mae disgwyl i Boris Johnson ddweud wrth ASau bod yna  gysylltiad agos rhwng yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd a’r system gofal cymdeithasol.

Yn ôl Rhif 10, mae’r diffyg cydweithredu rhwng y ddau yn aml yn golygu bod pobl “yn cael eu rhoi yn y safle gofal anghywir, a bod teuluoedd yn poeni am orfod cwrdd â chostau’r gofal os ydyn nhw’n gadael darpariaeth y GIG.”

“Annheg”

Mae Downing Street hefyd wedi dweud ei bod yn “annheg” bod cleifion gyda dementia yn gorfod talu am gostau llawn eu gofal tra bod rhywun sy’n cael gofal gan y GIG yn cael gofal am ddim.

O dan y trefniadau ar hyn o bryd, mae unrhyw un sydd ag asedau o fwy na £23,350 yn gorfod talu am eu gofal ond mae Rhif 10 yn dweud bod y costau yn aml yn “drychinebus ac anrhagweladwy”.

Dywedodd Boris Johnson: “Mae’n rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau bod y system gofal ac iechyd yn cael yr arian sydd ei angen yn y tymor hir er mwyn parhau i frwydro Covid a dechrau mynd i’r afael a’r rhestrau aros, a dod a diwedd i’r anghyfiawnder o gostau trychinebus am ofal cymdeithasol.

“Ni fydd fy Llywodraeth yn osgoi’r penderfyniadau anodd sydd eu hangen er mwyn i gleifion y GIG gael y driniaeth maen nhw eu hangen ac i drwsio ein system gofal iechyd sydd wedi torri.”

Fe fydd Boris Johnson yn datgelu ei gynlluniau i’r Cabinet fore heddiw cyn gwneud datganiad yn y Senedd yn ddiweddarach. Yn dilyn hynny fe fydd yn cynnal cynhadledd i’r wasg ynghyd a’r Canghellor Rishi Sunak a’r Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid.

Fe fyddai’r newidiadau yn benodol i Loegr – mae gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon drefniadau ar wahân ar gyfer gofal cymdeithasol.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd sut fyddai cynnydd mewn Yswiriant Gwladol yn cael ei gyflwyno yn y gwledydd datganoledig.

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau “hirddisgwyliedig” i ddiwygio gofal cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod eu cynllun nhw’n “barod i fynd”, ond eu bod nhw’n aros i Boris Johnson weithredu’n gyntaf.