Rhaid parhau’n ddiatal i addysgu a datblygu dealltwriaeth pobol yng Nghymru sy’n teimlo bod mewnfudo wedi bod yn beth drwg, ac nad yw cymdeithas aml-hil Prydain yn gweithio, meddai Cyngor Hil Cymru.
Dangosodd arolwg diweddar gan Hope Not Hate fod 44% yn teimlo bod mewnfudo wedi bod yn beth drwg, o gymharu â 56% a ddywedodd ei fod yn beth da, ar y cyfan.
Mae Cyngor Hil Cymru yn pwysleisio mai mewnfudwyr sy’n cynnal y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a bod y meddygon hyn yn aberthu eu lleisiant, eu teuluoedd, a’u bywydau i ofalu am eraill.
Yn ôl yr arolwg, roedd 47% yn credu nad yw cymdeithas aml-hil Cymru yn gweithio, a bod gwahanol gymunedau’n tueddu i fyw bywydau ar wahân.
O gymharu, dywedodd 66% bod presenoldeb amrywiaeth o gefndiroedd a diwylliannau yn rhan o ddiwylliant Prydain.
Roedd y farn ynghylch mewnfudwyr newydd yn symud i’w cymuned yn weddol hafal, gyda 46% yn poeni a 48% ddim yn poeni.
“Croesawgar”
‘Croesawgar’ oedd y term mwyaf poblogaidd a gafodd ei ddefnyddio i ddisgrifio Cymru, gyda’r termau ‘rhanedig’, ‘ansicr’, a ’diogel’ wedyn.
“Mae Cyngor Hil Cymru yn credu bod Cymru’n genedl groesawgar ac mae ei gwaith drwy Ddinas Noddfa, sy’n cael ei arwain gan y Trydydd sector, yn rhoi digon o dystiolaeth i brofi hyn,” meddai Cyngor Hil Cymru.
“Fodd bynnag, mae’r ystadegau’n dangos yn glir y byddai nifer uchel o bobol yn ein cymuned yn cwestiynu, herio a mynd i’r afael â diffyg cynhwysiad a thriniaeth wael tuag at gymunedau lleiafrifol, a chymunedau sy’n cael eu gwahaniaethu gan eu hil, sy’n cyrraedd Cymru yn chwilio am loches a lle diogel i ddianc rhag rhyfel, erlyniaeth a thriniaeth annynol.”
Mae’r ffaith bod 55% yn dweud bod mewnfudo wedi bod yn beth da, ar y cyfan, a bod 66% yn dweud bod cael amrywiaeth o gefndiroedd a diwylliannau yn rhan o ddiwylliant Prydain, yn profi llwyddiant cynlluniau wedi’u harwain gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru, Dinas Noddfa, Partneriaeth Mewnfudo Cymru, y Groes Goch, ac elusen Displaced People in Action, meddai Cyngor Hil Cymru.
“Haeddu parch”
“[Er hynny], mae’n rhaid i ni barhau’n ddiatal i addysgu a datblygu dealltwriaeth y 44% sy’n teimlo fod mewnfudo wedi bod yn beth drwg, a’r 47% sy’n dweud nad yw cymdeithas aml-hil Prydain yn gweithio a bod gwahanol gymunedau’n tueddu i fyw bywydau ar wahân,” meddai.
“Mae’n rhaid i ni bwysleisio’r ffaith fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei chynnal gan fewnfudwyr ac mae meddygon yn aberthu eu teuluoedd, eu llesiant, a’u bywydau i achub y rhai dan eu gofal.
“Maen nhw’n haeddu parch a chael eu dathlu, nid sensoriaeth, hiliaeth a chael eu gwthio i’r cyrion.
“Rhaid i ni rannu’r cyfle i bobol yng Nghymru arwyddo i fod yn rhan o bolisi Dim Hiliaeth Cymru.
“Yn ogystal, mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Wrth-hiliol, wedi cael ei gyd-greu gan Lywodraeth Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru er mwyn sicrhau y byddai gennym ni gyfle i greu Cymru wrth-hiliol, pe baen cael ei weithredu.
“Gweithiwn gyda’n gilydd i wneud Cymru yn Gymru wrth-hiliol.”