Mae’r Tywysog Charles wedi dweud fod ganddo “ddim syniad” am sgandal ariannol diweddar, yn ôl Clarence House.

Mae Michael Fawcett, un o gyn-weithwyr amlyca ac agosaf y Tywysog, wedi’i gyhuddo o addo sicrhau urddo’r biliwnydd o Saudi Arabia, Mahfouz Marei Mubarak bin Mahfouz, yn farchog yn gyfnewid am roddion ariannol i Sefydliad y Tywysog.

Yn ôl y Sunday Times, fe wnaeth e roi swm sylweddol o arian i brosiectau’r Tywysog yn gyfnewid am yr anrhydedd – ond mae’n gwadu’r honiadau.

Mae Mr Fawcett wedi camu o’r neilltu fel prif weithredwr elusen Sefydliad y Tywysog tra bod yr honiadau’n parhau.

“Dim syniad”

Mae llefarydd o Clarence House wedi mynnu bod y Tywysog Charles ddim yn ymwybodol o ymddygiad honedig Michael Fawcett.

“Does gan Dywysog Cymru ddim syniad am y cynnig honedig o anrhydeddau na dinasyddiaeth Brydeinig yn gyfnewid am arian i’w elusennau,” meddai.

“Mae’r Tywysog yn cefnogi’n llawn yr ymchwiliad gan Sefydliad y Tywysog.”

“Dirywio ymddiriedaeth y cyhoedd”

Oherwydd yr honiadau, mae’r grŵp pwysau gweriniaethol, Republic, wedi cysylltu â’r heddlu ynglŷn ag ymddygiad Tywysog Cymru a Michael Fawcett.

“Mae methu ag ymchwilio i’r materion hyn yn llawn yn mynd i ddirywio ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr heddlu, y teulu brenhinol a’r system anrhydeddau,” meddai eu prif weithredwr, Graham Smith.

“Dro ar ôl tro, mae’r teulu brenhinol wedi beio eu staff neu gyfeillion am eu camgymeriadau eu hunain.

“Mae’n anodd credu bod Charles ddim yn ymwybodol o’r trefniadau neu addewidion hyn, ac mae’n amser i’r teulu brenhinol gael eu herio am eu hymddygiad.”

Y Tywysog Charles

Cyn-brif weithredwr Sefydliad Tywysog Charles yn wynebu ymchwiliad gan yr heddlu

Mae Michael Fawcett yn wynebu honiadau ei fod e’n rhan o helynt yn ymwneud â chyfnewid arian am anrhydeddau