Mae mwy o gleifion â Covid-19 yn unedau gofal dwys ysbytai Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan na chleifion sydd heb Covid-19.

Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru ar gyfer rhanbarth De Ddwyrain Cymru, yn galw ar bobol i gael eu brechu yn sgil y newyddion.

Daeth y cyhoeddiad gan ymgynghorydd gofal dwys o fewn y bwrdd iechyd, meddai Plaid Cymru, ac mae’r bwrdd wedi troi eu statws i ‘goch’ gan fod mwy o gleifion Covid mewn unedau gofal dwys na chleifion heb Covid.

Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i weld sut mae ymateb i’r cynnydd mewn lledaeniad, yn enwedig wrth i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol.

“Parhau yn berygl”

“Rwy’n bryderus o glywed bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi troi yn statws ‘coch’ oherwydd cynnydd mewn cleifion Covid difrifol wael,” meddai Peredur Owen Griffiths AoS.

“Mae hyn yn dangos bod y feirws ar gynnydd ac yn parhau i fod yn berygl i ni a’n cymunedau.

“Ni allwn fod yn hunanfodlon dros hyn ac rwy’n annog pawb nad ydynt wedi’u brechu eto i gael eu brechu os yw eu hiechyd yn ei ganiatáu.

“Bydd hyn nid yn unig yn amddiffyn eu hunain ond hefyd y rhai o’u cwmpas. Mae angen cymryd pob gofal rhesymol i atal lledaeniad y feirws er mwyn atal ton arall.”

Ychwanega Peredur Owen Griffiths fod Plaid Cymru wedi ysgrifennu ar Lywodraeth Cymru i weld sut mae ymateb i’r cynnydd mewn trosglwyddiadau o’r feirws, “yn enwedig yn wyneb disgyblion sy’n dychwelyd i’r ysgol yn ystod y dyddiau diwethaf”.

“Bydd cwestiynau difrifol yn cael eu gofyn ar lawr y Senedd pan fydd yn ailagor yr wythnos nesaf.”