Mae Plaid Cymru’n galw am eglurder ynghylch effaith cyhoeddiad Boris Johnson am ofal cymdeithasol a chynyddu trethi ar Gymru, gan ddweud bod hwn yn bolisi “sydd ond yn effeithio ar Loegr”.
Mae prif weinidog Prydain wedi cyhoeddi cynnydd o 1.25% ledled y Deyrnas Unedig sy’n seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol, gan ddweud y byddai’r refeniw ychwanegol yn helpu i dalu am y rhaglen ’dal i fyny’ fwyaf yn hanes y Gwasanaeth Iechyd.
Bydd £12bn y flwyddyn yn mynd i’r afael ag achosion sydd wedi pentyrru yn ystod y pandemig, ond hefyd y system gofal cymdeithasol yn Lloegr sydd â chostau “anrhagweladwy a chatastroffig”, yn ôl Downing Street.
Yn ôl Llywodraeth Prydain, bydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn £2.2bn yn ychwanegol o wariant gofal cymdeithasol sy’n deillio’r cynnydd yn y dreth incwm.
Beth fydd y drefn newydd?
O fis Hydref 2023, bydd y wladwriaeth yn talu costau unrhyw un sydd ag asedau o lai na £20,000 tra bydd disgwyl i’r rheiny ag asedau rhwng £20,000 a £100,000 gyfrannu at eu costau ond byddan nhw hefyd yn derbyn cymorth gan y wladwriaeth.
Fydd dim rhaid i unrhyw un dalu mwy na £86,000 ar gyfer costau gofal yn ystod eu hoes.
Yn ogystal â’r ardoll iechyd a gofal cymdeithasol, bydd cynnydd hefyd o 1.25% yn y dreth randal er mwyn sicrhau bod y rhai sy’n derbyn eu hincwm o randaliadau hefyd yn cyfrannu.
Yn y lle cyntaf, bydd cynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol o fis Ebrill y flwyddyn nesaf wrth i systemau gael eu diweddaru.
O 2023, bydd yr elfen ardoll iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei rhannu a bydd cyfraniadau gweithwyr i’w gweld yn glir ar eu taflenni cyflog.
Bydd pob oedolyn sy’n gweithio yn ei dalu, gan gynnwys y rhai sydd dros yr oedran ar gyfer pensiwn gwladol, a hynny’n wahanol i gyfraniadau Yswiriant Gwladol eraill.
Yn ôl Downing Street, bydd trethdalwr sylfaenol sy’n ennill £24,100 yn cyfrannu £3.46 yr wythnos, tra bydd y rheiny sy’n ennill £67,100 yn cyfrannu £7.15 yr wythnos.
Dywed llefarydd Boris Johnson mai dim ond codi trethi yn y modd yma fydd yn codi digon o arian i dalu’r symiau sydd eu hangen er mwyn ymateb i’r sefyllfa a bod Yswiriant Gwladol yn ffordd deg o weithredu gan y byddai cyflogwyr hefyd yn cyfrannu.
‘Annheg’
Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, a Ben Lake, llefarydd iechyd y blaid, wedi mynegi pryder am y cyhoeddiad.
Maen nhw’n dweud bod y cynllun “yn annheg wrth roi’r ddyletswydd ar bobol sy’n gweithio ac yn effeithio’n anghymesur y rhai sydd ar yr incwm isaf”.
Mae Plaid Cymru wedi mynegi pryder bod y cynllun yn cael ei ddefnyddio i ariannu polisi Seisnig, ac maen nhw’n galw am eglurhad ynghylch sut y bydd yn effeithio ar Gymru.
Mae Ben Lake a Rhun ap Iorwerth bellach yn pwyso ar Lywodraeth Cymru hefyd i greu eu rhaglen eu hunain yn dilyn ymrwymiad i “fynd ar eu pennau eu hunain” pe na bai cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar y gorwel.
“Rydym hefyd yn gofidio bod Yswiriant Gwladol, treth sydd wedi’i neilltuo’n llawn, yn cael ei ddefnyddio i ariannu polisi sydd ond yn effeithio ar Loegr,” meddai’r ddau mewn datganiad, cyn y cyhoeddiad y byddai gwledydd eraill Prydain yn derbyn £2.2bn.
“Mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddyletswydd frys heddiw i amlinellu faint o arian fydd Cymru’n ei dderbyn ar sail Barnett o ganlyniad i’r polisi hwn.
“Dywedodd Llywodraeth Cymru o’r blaen eu bod yn barod i ‘fynd ar eu pennau eu hunain’ os nad oedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i ddiwygio gofal cymdeithasol.
“Nawr fod Boris Johnson, o’r diwedd, wedi cyhoeddi ei gynlluniau hirddisgwyliedig, does gan Lywodraeth Cymru ddim rhagor o esgusodion i oedi eu cynlluniau ymhellach i ddatrys yr argyfwng yng Nghymru.”