Mae Nicola Sturgeon wedi dweud ei bod hi am osod “platfform deddfwriaethol sylweddol” yn ei rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Bydd Prif Weinidog yr Alban yn gwneud cyhoeddiad yn Holyrood heddiw (dydd Mawrth, Medi 7), gan gyflwyno cynlluniau ei llywodraeth ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dydi hi wedi dweud a fydd hi’n cyhoeddi deddfwriaeth ar gyfer cynnal pleidlais annibyniaeth arall yn yr Alban ai peidio.

Gan ganolbwyntio ar blant a theuluoedd, bydd Prif Weinidog yr Alban yn cyhoeddi rhaglen ofal plant ar gyfer y teuluoedd tlotaf – a fydd yn anelu at gynnig gofal cyn ac ar ôl ysgol am ddim i helpu rhieni i ddychwelyd i’r gwaith.

“Byddaf yn cyflwyno ein cynigion i gyflwyno ein haddewidion yn ein maniffesto, ymrwymiad maniffesto y cafodd 72 allan o 129 o aelodau Senedd yr Alban eu hethol arno, cofiwch, i roi dewis i bobol yr Alban ynghylch ein dyfodol, i ddewis annibyniaeth,” meddai Nicola Sturgeon wrth wasanaeth newyddion PA.

“Nid yn unig y mae mandad am hynny, ond mewn democratiaeth, dylid parchu pob mandad.

“Mae hwn yn benderfyniad i bobol nid gwleidyddion ei wneud, ar yr adeg hon mewn hanes wrth i ni adfer ar ôl pandemig, a gofyn i’n hunain, fel gwledydd mewn eraill, ‘pa fath o gymdeithas ydyn ni am ei hadeiladu a phwy ydyn ni eisiau i siapio’r penderfyniadau sy’n penderfynu hynny?’”

‘Adfer’

Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaeth yr SNP a Phlaid Werdd yr Alban gytuno ar fargen i rannu grym a chydweithio.

“Byddaf yn manylu ar y rhaglen i’r llywodraeth, yn amlwg, i’r senedd i ddechrau ac felly bydd angen i mi roi’r manylion i’r senedd, ond bydd yna raglen ddeddfwriaethol sylweddol fel pob blwyddyn arall, gyda darnau allweddol o ddeddfwriaeth i gefnogi adfer ar ôl Covid, a mynd â diwygiadau angenrheidiol mewn gwasanaethau cyhoeddus a’r economi yn eu blaenau.

“Ond o ran y rhaglen ddeddfwriaethol, bydd yna nifer o ymyriadau polisi sylweddol, arwyddocaol a fydd yn cyd-fynd â’r maniffesto y cawsom ein hailethol yn gryf arno ychydig fisoedd yn ôl, ond hefyd, i ddechrau gweithredu ar y cytundeb cydweithio y daethom iddo gyda Phlaid Werdd yr Alban yn yr wythnosau diwethaf.”

Yn ystod yr etholiad, fe wnaeth yr SNP addo dyblu’r swm i’r teuluoedd tlotaf fel rhan o Daliad Plant yr Alban, ond mae’n annhebygol y bydd cyhoeddiad am hynny heddiw.