Byddai’r pwll glo newydd sbon cyntaf yn y Deyrnas Unedig ers degawdau yn dod â channoedd o swyddi ac yn cynrychioli “cyfle gwych” i Cumbria, ond byddai hefyd yn gwaethygu’r argyfyngau hinsawdd byd-eang ac yn niweidio enw da Prydain, yn ôl ymchwiliad cyhoeddus.

Dywed yr ymchwiliad fod newid yn yr hinsawdd yn “fygythiad i ddynoliaeth” ac y byddai’r Deyrnas Unedig yn cael ei chyhuddo o “ragrith” pe bai’n cymeradwyo agor pwll glo newydd tra’n ceisio perswadio gwledydd megis Tsieina ac India i droi at ynni gwyrdd.

Mae’r cwmni glo West Cumbria Mining (WCM) am agor pwll glo dwfn ar hen waith cemegol Marchon ar gyrion Whitehaven yn Cumbria.

Mae’r datblygiad, a gafodd ei gynnig am y tro cyntaf yn 2017, wedi’i gymeradwyo deirgwaith gan Gyngor Sir Cumbria ond ym mis Mawrth, penderfynodd yr Ysgrifennydd Cymunedau Robert Jenrick fod angen cynnal ymchwiliad i archwilio’r dadleuon a gafodd eu cyflwyno gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr y cynnig.

Roedd gwyddonwyr ac ymgyrchwyr hinsawdd blaenllaw wedi beirniadu’r cynlluniau, gan ddweud eu bod yn tanseilio ymrwymiad y Llywodraeth i leihau allyriadau carbon deuocsid i “sero net” erbyn 2050 ac yn niweidio ei hygrededd cyn cynnal uwchgynhadledd hinsawdd ryngwladol Cop26 yn Glasgow ym mis Tachwedd.

Dechreuodd yr ymchwiliad gyda datganiadau agoriadol gan yr ymgeiswyr, y cwmni glo WCM a’r rhai sydd yn erbyn y cynlluniau.

Dywedodd Gregory Jones QC, sy’n cynrychioli WCM, nad oedd y rhan fwyaf o’r feirniadaeth yn erbyn y datblygiad ei hun ond mewn perthynas ag effaith llosgi glo a gwneud dur ar yr hinsawdd.

Pwysleisiodd nad glo thermol ar gyfer ei losgi mewn gorsafoedd pŵer fyddai’r glo hwn.

Clywodd yr ymchwiliad y byddai’r pwll yn darparu 532 o swyddi parhaol, 80% wedi’u llenwi o’r gweithlu lleol, ac yn cefnogi 1,000 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’r rhanbarth ac nid yw’n syndod ei fod wedi cael cefnogaeth leol,” ychwanegodd Gregory Jones.

‘Her’

Dywedodd Paul Brown QC, sy’n cynrychioli Cyfeillion y Ddaear mai “newid yn yr hinsawdd yw’r her fwyaf y mae dynoliaeth wedi’i hwynebu erioed,” gan ychwanegu, er bod hon yn her fyd-eang, fod yn rhaid ei hwynebu’n lleol.

“Ni all y Deyrnas Unedig ond honni ei bod yn arweinydd byd ar ymarfer hinsawdd os yw’n cadw at yr hyn y mae’n ei ddweud,” meddai wedyn.

Agorodd Stephen Normingtion, yr Arolygydd a chadeirydd yr ymchwiliad a gafodd ei gynnal gan yr Arolygiaeth Gynllunio, yr ymchwiliad ddydd Mawrth, ac fe fydd yn para pedair wythnos.

Ar ôl hynny bydd yn gwneud argymhelliad, naill ai i gymeradwyo neu wrthod – ond Robert Jenrick fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Mae’r gwrandawiad yn parhau.