Mae’r A5 wedi ei chau i’r ddau gyfeiriad oherwydd gwrthdrawiad rhwng dau feic modur.

Fe ddigwyddodd rhwng Pentrefoelas a Rhydlanfair yn sir Conwy.

Mae Traffig Cymru yn annog gyrwyr i ddod o hyd i lwybr gwahanol, tra bod criwiau brys ar y safle.

“Cawsom ein galw i’r A5 ger Penmachno, Conwy’r prynhawn yma am 1.36yh i adroddiadau o wrthdrawiad traffig ar y ffordd yn cynnwys dau feic modur,” meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans.

“Rydym wedi anfon cerbyd ymateb brys ac Ambiwlans Awyr Cymru i’r fan lle rydym wedi bod ers 3.30yh.”

Ac mae Traffig Cymru wedi rhybuddio y bydd y ffordd ar gau am beth amser.

“Mae’r A5 ar gau rhwng y ddwy gyffordd – y B4407 (Ysbyty Ifan) a’r B4406 (Penmachno) – i’r ddau gyfeiriad.

“Mae’r ffordd yn debygol o aros ar gau am beth amser.

“Cynlluniwch ymlaen llaw os ydych chi’n teithio yn yr ardal.”