Mae arweinydd Cyngor Gwynedd yn dweud bod angen ymyrraeth “radical” i wella canol trefi Cymru, a bod angen “cyfeirio pethau yn ôl i ganol trefi”.
Daw hyn ar ôl i adroddiadau gael eu cyhoeddi yn astudio’r sefyllfaoedd mewn trefi a dinasoedd ar draws y wlad.
Roedd wedi ymweld â Bangor, sy’n un o’r trefi sy’n cael eu hastudio yn yr adroddiad ‘Small Towns, Big Issues’ gan yr Athro Karel Williams.
Daeth yr adroddiad hwnnw, ac adroddiad arall, i’r casgliad fod canol trefi a dinasoedd wrth wraidd bywyd Cymru, ac roedden nhw’n pwysleisio bod heriau mawr yn eu hwynebu.
Mae Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, hefyd wedi sôn am rai o’r heriau sy’n wynebu strydoedd mawr yng nghanol trefi fel Bangor.
“Rydyn ni’n ymwybodol bod canol trefi yn dioddef, yn arbennig gan fod y siopau mawr yn diflannu o ganol trefi, sy’n achosi problem,” meddai wrth golwg360.
“Mae yna waith wedi bod yn cael ei wneud i gefnogi canol tref Bangor ers tro byd, ac rydyn ni’n cydweithio’n agos efo Cyngor y Ddinas.
“Mae’n anodd gwybod beth fedrwn ni wneud, achos mae’n anodd gwrthddweud grym y farchnad ar hyn o bryd.
“Ond mae angen cyfeirio pethau yn ôl i ganol trefi, yn hytrach na’u bod nhw’n mynd tuag allan.
“Hwyrach ein bod ni angen bod yn eithaf radical efo hynny, ac ein bod ni ddim yn caniatáu datblygiadau tu allan i’r dref bellach.”
Heriau i ganol trefi
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, bod angen dod i’r afael â’r heriau sy’n wynebu canol trefi a dinasoedd, gan ganolbwyntio ar ddelio â datblygiadau y tu allan i’r dref.
“Canol trefi a dinasoedd yw’r llefydd y gall y rhan fwyaf ohonom gerdded iddynt, neu gael trafnidiaeth gyhoeddus ohonynt, a dyma ble mae cyrraedd nifer o lwybrau trafnidiaeth,” meddai.
“Rydym am gael gwell swyddi a gwasanaethau yng nghanol trefi lle gall pobl gael mynediad atynt heb orfod mynd yn eu car.
“Mae’r ddau adroddiad yn ei gwneud yn glir ein bod wedi methu â rheoli datblygiadau y tu allan i drefi ac mae angen i ni ysgogi cynghreiriau dros newid yng nghanol ein trefi i weld newid.”
Arian ychwanegol
Fe gadarnhaodd Lee Waters y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi benthyciadau ychwanegol o £5m ar gyfer y cynllun Trawsnewid Trefi.
“Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn dangos ein hymrwymiad i adfywio canol ein trefi a’u rhoi wrth wraidd popeth a wnawn,” meddai.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r arian hwn yn cael ei fuddsoddi mewn cyfleoedd i wella canol ein trefi.”