Mae Comisiwn Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi ei gynigion cychwynnol ar gyfer y map newydd o etholaethau Seneddol a fydd yn dod i rym yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Yn ogystal â chyhoeddi ei gynigion, mae’r Comisiwn wedi agor cyfnod ymgynghori wyth wythnos ble gall y cyhoedd leisio’u barn ar yr etholaethau arfaethedig.

Cafodd y cynigion eu cyhoeddi yn dilyn cadarnhad yn gynharach eleni y bydd Cymru’n colli 8 Aelod Seneddol, gostyngiad o 40 etholaeth i 32.

Y newidiadau

Mae’r map etholiadol newydd yn dangos y bydd etholaeth Arfon yn cael ei rhannu’n ddwy, yn ogystal ag etholaeth Ceredigion yn cael ei chyfuno â Gogledd Sir Benfro.

Mae etholaeth Castell Nedd hefyd am ddod yn rhan o etholaeth Gorllewin Abertawe.

O dan reolau a nodir yn Neddf Etholaethau Seneddol 1986 rhaid i bob etholaeth a gynigir gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr.

Yr unig eithriad i’r rheol hon yw Ynys Môn sy’n etholaeth warchodedig, ac felly nid yw’n gweld unrhyw newidiadau i’w henw, ei dynodiad na’i ffiniau yn y cynigion hyn.

Heblaw am Ynys Môn, cynigir newidiadau ffiniau ar gyfer pob etholaeth yng Nghymru.

Mae newid i enwau ambell i etholaeth tra bod rhai yn cael eu hamsugno’n llawn i etholaethau cyfagos.

Mae’r cynigion cychwynnol yn edrych fel hyn:

Ystyriodd y Comisiwn sawl ffactor wrth ddatblygu ei gynigion, yn ogystal â’r ystod statudol o etholwyr.

Roedd daearyddiaeth – megis llynnoedd, afonydd a mynyddoedd – yn ystyriaeth bwysig, ynghyd â ffiniau cyfredol fel ffiniau awdurdodau lleol a wardiau.

Mae gan y Comisiwn borth ymgynghori ar-lein ar cffg-arolygon.org.uk sydd yn cynnwys y cynigion yn llawn, a gall aelodau’r cyhoedd gyflwyno eu barn yn uniongyrchol trwy’r porth.

Gall pobol hefyd gymryd rhan yn yr ymgynghoriad trwy e-bostio cffg@ffiniau.cymru neu ysgrifennu at y Comisiwn yn y post i Gomisiwn Ffiniau i Gymru, Ty Hastings, Caerdydd, CF24 0BL.

Guido yn llygad ei le

Roedd map gafodd ei ryddhau gan Guido ddoe (dydd Mawrth, 7 Medig) wedi darogan y newidiadau hyn i fap gwleidyddol Cymru.

“Misoedd o waith caled”

Dywedodd ysgrifennydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru, Shereen Williams, “Rwy’n falch iawn o fod yn cyhoeddi’r cynigion hyn heddiw.

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn ganlyniad misoedd o waith caled gan ein comisiynwyr a’n staff, ac rydym yn gyffrous i ddarllen barn y cyhoedd yn ystod ein cyfnod ymgynghori.

“Rydyn ni wedi gorfod cynnig newidiadau sylweddol oherwydd y gostyngiad yn nifer yr etholaethau yng Nghymru ac mae hynny wedi cyflwyno her benodol wrth i ni geisio datblygu map sy’n cwrdd â’r amodau a nodir yn y Ddeddf, ond sydd hefyd yn cwrdd â disgwyliadau pobl Cymru.

“Rydyn ni’n hyderus bod ein cynigion yn ymgais gyntaf gref i greu map ymarferol o 32 etholaeth i Gymru.

“Pwrpas ein cynigion cychwynnol fodd bynnag yw dechrau’r sgwrs am sut y bydd y map newydd yn edrych.

“Ni fydd neb yn adnabod eich ardal leol cystal â chi, felly cymerwch ran yn yr ymgynghoriad a gadewch i ni wybod eich barn.

“Wrth inni fwrw ymlaen â’r adolygiad, rydym yn debygol iawn o wneud newidiadau i’n cynigion, felly gallai eich ymatebion i’r ymgynghoriad wneud gwahaniaeth sylweddol.”