Fe fydd Boris Johnson yn ceisio darbwyllo Aelodau Seneddol Ceidwadol i gefnogi ei gynllun i drwsio gofal cymdeithasol mewn pleidlais yn San Steffan heddiw (dydd Mercher, 8 Medi), ddiwrnod ar ôl iddo gyhoeddi’r polisi.

Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe (7 Medi) ei fod yn sgrapio addewid a wnaeth yn yr etholiad cyffredinol drwy godi Yswiriant Gwladol er mwyn mynd i’r afael a’r rhestrau aros faith yn y Gwasanaeth Iechyd yn sgil Covid a diwygio’r system gofal cymdeithasol yn Lloegr.

Pan gafodd y cynlluniau eu datgelu roedd yna wrthwynebiad chwyrn ymhlith rhai Torïaid ond ychydig iawn o her fu yn Nhŷ’r Cyffredin wrth i Boris Johnson amlinellu ei gynlluniau.

Mae’r cynllun yn mynd yn groes i safiad traddodiadol y blaid i gadw trethi’n isel. Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi gwrthod diystyru codi trethi ymhellach – er ei fod wedi dweud nad oedd eisiau i hynny ddigwydd.

Y disgwyl yw y bydd Boris Johnson yn cwrdd â phwyllgor 1922 o ASau Ceidwadol cyn y bleidlais heddiw.

Yn ôl cynllun  y Llywodraeth fe fydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn codi 1.25% – mae hyn yn golygu y bydd rhywun sy’n ennill £24,100 yn talu £180 yn ychwanegol y flwyddyn, tra bod rhywun sy’n ennill £67,100 yn talu £715 y flwyddyn.

Yn ogystal a mynd i’r afael a rhestrau aros y GIG fe fydd y pecyn newydd gwerth £36 biliwn dros gyfnod o dair blynedd yn diwygio’r modd mae gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr yn cael ei ariannu.

Fe fydd cap o £86,000 ar gostau gofal yn dod i rym o Hydref 2023 er mwyn diogelu pobl “rhag colli popeth,” meddai Boris Johnson.

Fe fydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn £2.2 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn o ganlyniad.