Mae drama a gyd-ysgrifennwyd gan bobol ifanc yn Ne Cymru a rhai yng nghoedwig law’r Amazon ym Mrasil ymhlith nifer o brosiectau ymgysylltu â’r hinsawdd sydd wedi cael eu cyhoeddi cyn uwchgynhadledd Cop26.

Mae Ymchwil ac Arloesi’r Deyrnas Unedig (UKRI) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) wedi cyhoeddi buddsoddiad o £120,000 mewn cyfres o brosiectau i annog pobol ifanc 14-18 oed i wneud ymchwil am yr hinsawdd.

Bydd y prosiectau’n cael eu cynnal rhwng mis Medi a mis Rhagfyr i gyd-fynd ag uwchgynhadledd cop26 y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd sy’n cael ei gynnal yng Nglasgow’r hydref hwn.

Maent yn cynnwys y prosiect Hinsawdd yn Eich Dwylo a fydd yn gwahodd pobol ifanc 14-18 oed yng Nglasgow i archwilio materion newid yn yr hinsawdd drwy wneud cylchgronau, tra bydd pobol ifanc yng Nghaeredin o gymunedau Caribïaidd y ddinas yn cael eu hannog i archwilio newid yn yr hinsawdd drwy eu treftadaeth fwyd.

Bydd menter arall yn cynnwys chwe gweithdy creadigol ar-lein sy’n dwyn ynghyd 10 o bobol ifanc o Dde Cymru gyda 10 o bobol ifanc o’r Amazon, Brasil, i greu perfformiad amlgyfrwng ar y cyd sy’n dangos eu hymatebion i newid yn yr hinsawdd mewn amgylcheddau gwahanol iawn.

“Dod â phobol at ei gilydd”

Dywedodd yr Athro Christopher Smith, Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau: “Os ydym am ddod at ein gilydd fel cymuned fyd-eang i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen i ni sicrhau bod pobol o bob oed o wahanol wledydd yn ymgysylltu â’r mater hollbwysig hwn.

“Mae’r buddsoddiadau hyn yn dyst i allu’r celfyddydau creadigol, theatr ac adrodd straeon i ddod â materion cymhleth yn fyw, ac i ddod â phobol at ei gilydd.

“Mae gan bobol ifanc ran arbennig yn hyn oherwydd eu dyfodol nhw sydd mewn perygl.

“Bydd eu hymgysylltiad â’r gweithgareddau hyn, a’u cyfraniad creadigol atynt, yn arwain at ddealltwriaeth ddyfnach a mwy ystyrlon o’r angen i weithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.”

Ychwanegodd Anne-Marie Trevelyan, y Gweinidog dros Ynni a Newid Hinsawdd: “Mae mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn ymdrech sy’n gorfod cynnwys pob grŵp oedran ar draws cymdeithas a chysylltu cymunedau ledled y byd.

“Edrychaf ymlaen at weld ffrwyth y fenter Cop26 ysbrydoledig hon a fydd yn sianelu syniadau, egni a chreadigrwydd newydd pobol ifanc yn eu harddegau ledled y byd i’n brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd”.