Mae menter gan Brifysgol Abertawe i greu gweithwyr meddygol proffesiynol y genhedlaeth nesaf wedi derbyn £700,000 i greu canolfan addysg feddygol newydd yn Aberystwyth.
Y gobaith yw y bydd lleoliad y ganolfan yn helpu i gynyddu nifer y myfyrwyr meddygaeth sy’n cael eu recriwtio o ardaloedd gwledig, gan arwain at gynnydd yn nifer yr ymarferwyr meddygol sy’n cael eu hyfforddi’n wledig.
Bydd y ganolfan newydd, ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth, yn cynnwys mannau addysgu ac astudio preifat a chymunedol, ystafell efelychu, labordy sgiliau clinigol a chyfleusterau cymunedol.
Bydd myfyrwyr yn gallu dysgu am y ffyrdd y mae pobl yn dangos problemau iechyd mewn modd diwahaniaeth, hanfodion rhoi diagnosis, rhesymu clinigol a meddygaeth sy’n canolbwyntio ar y claf, a hynny o safbwynt gofal sylfaenol.
Mae’r fenter yn cydnabod iechyd a lles yr unigolyn cyfan, gan roi’r claf, yn hytrach na’r clefyd, wrth wraidd yr hyn a ddysgir.
“Cymunedau gwledig”
Dywedodd Dr Heidi Phillips, Athro Cyswllt Gofal Sylfaenol: “Yn y Deyrnas Unedig, ceir 90% o weithgarwch y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym maes gofal sylfaenol.
“Fodd bynnag, mae cwricwla meddygaeth i israddedigion yn canolbwyntio’n bennaf ar gyflwyno myfyrwyr meddygaeth i arbenigeddau meddygol yn yr ysbyty.
“Ar ben hynny, mae dwy ysgol feddygaeth Cymru yn y de.
“Nid yw hyn yn adlewyrchu anghenion y boblogaeth yng ngweddill Cymru.
“Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth, rydym yn creu canolfan ar gyfer addysg feddygol mewn cymunedau gwledig, drwy greu amgylchedd dysgu ac addysgu modern.
“I ddechrau, fe’i defnyddir ar gyfer myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion ac Astudiaethau Cydymaith Meddygol, ond bydd ei gweledigaeth yn ehangach na hynny.
“Bydd ei chwmpas yn y dyfodol yn cynnwys llawer o ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys myfyrwyr meddygaeth, myfyrwyr fferylliaeth, meddygon sy’n dilyn y flwyddyn sylfaen a meddygon teulu dan hyfforddiant, yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig eraill, gan ganolbwyntio ar weithio rhyngbroffesiynol.”