Mae Cymru yn wynebu ‘argyfwng’ nyrsio canser gyda niferoedd cynyddol o gleifion heb y gofal na’r cymorth meddygol priodol.

Yn ôl elusen Macmillan mae angen cynnydd o 80% yn nifer y nyrsys i ofalu am y 230,000 o bobl fydd yn byw gyda chanser erbyn diwedd y ddegawd.

Os nad oes gweithredu ar y niferoedd presennol fe fydd yna  fwlch o 166 o nyrsys arbenigol erbyn 2030.

Mae tua 207 o nyrsys arbenigol canser yng Nghymru, sy’n golygu bod angen i’r nifer gynyddu 80% i lenwi’r bwlch.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod nifer y nyrsys yng Nghymru yn parhau i gynyddu, a bod lleoedd hyfforddi wedi cynyddu 68% dros y pum mlynedd diwethaf.

Adroddiad Macmillan

Yn ôl Macmillan mae bron i dri chwarter o nyrsys canser y fron  ynghyd â 50% o nyrsys canser gynaecoleg yng Nghymru yn 50 oed neu’n hŷn.

Mae hyn yn golygu bydd nifer ohonynt yn ymddeol dros y blynyddoedd nesaf.

Mae pryderon hefyd y bydd hyd yn oed yn fwy o’r nyrsys hyn yn gadael y maes oherwydd effeithiau Covid-19.

Datgelodd arolwg barn ddiweddar gan Macmillan fod y gweithlu eisoes dan straen, gyda miloedd o bobl â chanser yn y DU ddim yn derbyn gofal nyrsio arbenigol.

Noda’r adroddiad fod un o bob pump (21%) o’r rhai a gafodd ddiagnosis o ganser yng Nghymru yn y 5 mlynedd ddiwethaf yn honni bod diffyg cymorth nyrsio canser arbenigol yn ystod eu diagnosis neu eu triniaeth.

Roedd hyn yn cael effaith ar iechyd meddwl cleifion canser a’u bod yn fwy tebygol o brofi iselder neu or-bryder yn sgil hynny.

Y gost

Yn ôl Macmillan bydd y gost o gynyddu nifer y nyrsys arbenigol yn fwy na £22 miliwn.

Mae’n debyg mai cost hyfforddi’r nyrsys arbenigol fydd £12.2 miliwn er mwyn cyflawni’r cynnydd.

Mae hyn yn gyfystyr â thua £53 y pen i bob person â chanser yng Nghymru.

Byddai’r costau o gyflogi 166 o nyrsys canser arbenigol ychwanegol yn 2030 tua £10.2m y flwyddyn.

 Llywodraeth Cymru

“Mae nyrsys arbenigol canser yn chwarae rhan bwysig a gwerthfawr wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel a chefnogi pobl a’u teuluoedd trwy ganser.

“Mae nifer y nyrsys cofrestredig yng Nghymru yn parhau i gynyddu ac mae lleoedd hyfforddi wedi cynyddu 68% dros y pum mlynedd ddiwethaf.

“Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn arwain ar ddatblygu cynllun gweithlu newydd ar gyfer nyrsio.”