Yn Ffrainc, fe fydd yr achos yn dechrau heddiw (Dydd Mercher, 8 Medi) yn erbyn 20 o ddynion sydd wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad ag ymosodiadau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) ym Mharis yn 2015 pan gafodd 130 o bobl eu lladd a channoedd eu hanafu.

Roedd naw dyn arfog a hunan-fomwyr wedi cynnal ymosodiadau o fewn munudau i’w gilydd yn stadiwm bêl-droed Ffrainc, neuadd Bataclan a bwytai a chaffis ym Mharis ar 13 Tachwedd, 2015. Dyma oedd yr ymosodiad gwaethaf yn Ffrainc ers yr Ail Ryfel Byd.

Fisoedd yn ddiweddarach roedd IS wedi targedu Brwsel, gan ladd 32 o bobl.

Mae disgwyl i’r rhai oedd wedi goroesi’r ymosodiadau a theuluoedd y rhai fu farw fynd i’r achos yn y Palais de Justice ym Mharis.

Un o’r ymosodwyr oedd wedi goroesi, Salah Abdeslam, yw’r prif ddiffynnydd yn yr achos a’r unig un sydd wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth. Roedd wedi ffoi i Frwsel wedi’r ymosodiadau ac mae wedi gwrthod siarad gydag ymchwilwyr i’r achos.

Mae 20 o ddynion wedi’u cyhuddo ond bydd chwech yn sefyll eu prawf heb fod yn bresennol.

Mae disgwyl i’r achos bara am naw mis.