Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bydd yna ddim cyfnod clo byr arall yng Nghymru yn yr Hydref.

Wrth i achosion Covid-19 gynyddu ar draws Cymru, roedd rhai wedi awgrymu’r potensial o gael toriad tan, neu ‘firebreak’ arall, fel ddigwyddodd fis Tachwedd y llynedd.

Ddydd Llun (6 Medi), fe gafodd 5,161 o achosion newydd eu cofnodi yng Nghymru, sef y nifer fwyaf ers 17 Rhagfyr, 2020.

Fe achosodd y cynnydd y llynedd i’r Prif Weinidog Mark Drakeford alw am gyfnod clo estynedig ychydig ddyddiau’n ddiweddarach.

Gyda sefyllfa brechu Cymru ar hyn o bryd, mae’n llai tebygol y bydd hynny’n digwydd eto, er gwaethaf amheuon rhai.

“Efallai y bydd cyfnod clo byr”

Rhoddodd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion, ddiweddariad i’r cabinet ar sefyllfa Covid-19 y sir ddydd Mawrth, 7 Medi, a dywedodd ei bod hi wedi cyfarfod â swyddogion addysg ac aelodau undebau.

“Mae’r niferoedd yn cynyddu ym mhobman ac mae pawb yn poeni unwaith eto ynglŷn â sut y bydd pethau – efallai y bydd cyfnod clo byr dros hanner tymor ond nid yw hynny wedi’i gadarnhau eto o gwbl,” meddai.

Dywedodd hi fod achosion o Covid-19 eisoes “yn dod trwy ein hysgolion,” gyda 27 achos yng Ngheredigion dros y penwythnos.

Hefyd, nododd hi fod 13 o bobol yn dioddef o’r firws yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth, gyda 37 yn ysbyty Glangwili Caerfyrddin, ac wyth yn ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Sefyllfa ysgolion

Roedd Dilwyn Roberts-Young, ysgrifennydd cyffredinol undeb athrawon UCAC, hefyd wedi dweud yn ddiweddar bod posibilrwydd cryf o gyfnod clo arall.

“Mae pawb yn awyddus iawn i osgoi rhagor o darfu ar addysg wyneb-yn-wyneb. Ond wrth gwrs, mae cyfnod clo byr yn un o’r camau posib y gellid ei gymryd – os yw’r ffigyrau ynghylch niferoedd yr achosion a’r cyfraddau heintio yn cyfiawnhau hynny ar unrhyw adeg,” meddai.

“Bydd y materion hyn yn parhau i fod dan drafodaeth rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a’r undebau sy’n cynrychioli’r gweithlu addysg, gyda’r bwriad o sicrhau addysg dan yr amgylchiadau mwyaf diogel posib.”

Dim bwriad

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu nad oes bwriad ganddyn nhw i weithredu cyfnod clo byr arall.

“Does dim cynlluniau ar gyfer cyfnod atal byr yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

“Rydym yn parhau i fonitro sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ofalus ac yn adolygu’r rheoliadau coronafeirws bob tair wythnos.

“Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu a byddem yn annog pawb i barhau i gymryd camau i amddiffyn eu hunain a’u hanwyliaid, gan gynnwys manteisio ar y cynnig o frechlyn os nad ydynt wedi cael un eto.”