Mae pobl sydd wedi colli miloedd o bunnoedd yn yr argyfwng diogelwch tân yn dilyn trychineb Twr Grenfell yn Llundain wedi gofyn am gymorth brys i ddelio â chostau yswiriant cynyddol.

Mae llawer o lesddeiliaid yn poeni am gostau enfawr gwaith atgyweirio deunyddiau fel cladin fflamadwy.

Yn dilyn trychineb tân Grenfell yn 2017 mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru yn ceisio mynd i’r afael â diogelwch deunyddiau sydd ar adeiladau.

Yr wythnos hon fe gyhoeddodd Gweinidogion Llywodraeth y DU y bydd Tŵr Grenfell yn cael ei ddymchwel oherwydd rhesymau diogelwch a hynny dros bedair blynedd ers i’r tân ladd 72 o bobl yn Llundain.

Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n ariannu arolygon i asesu pa waith oedd ei angen.

Disgrifiwyd y cam gan ymgyrchwyr “yn rhy ychydig, yn rhy hwyr”.

Bydd cronfa atgyweirio ar gael y flwyddyn nesaf yng Nghymru.

Eisoes yn Lloegr gall pobl wneud cais am arian i gael gwared ar gladin ar adeiladau dros 18m (59 troedfedd) o daldra.

Ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi gwario unrhyw arian eto ar gael gwared ar gladin neu waith adfer diogelwch tân arall ar adeiladau preswyl preifat dros 18m o daldra.

‘Cymru yn y tywyllwch’

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wadi beirniadu’r modd mae Llywodraeth Cymru wadi delio â’r sefyllfa cladin.

Yn ôl Janet Finch Saunders, Llefarydd Tai y blaid mae angen i weinidogion y Llywodraeth weithredu.

“Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cronfa gwerth £5 biliwn y gall pobl yn Lloegr wneud cais amdani, ond eto mae perchnogion tai pryderus yng Nghymru wedi cael eu gadael yn y tywyllwch sydd yn gorfod aros am newyddion pellach tra bod costau wedi cynyddu,” meddai.

“Mae angen gweithredu ar frys.

“Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno’r pecyn a addawyd fisoedd yn ôl.

“Ni ddylwn adael perchnogion tai o Gymru dalu’r pris am ddiffygion datblygwyr, a gwaith gweinidogion yw camu i mewn i ddatrys yr anghyfiawnder hwn.”

Dros wefannau cymdeithasol fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies: ‘Mae Gweinidogion Llafur ym Mae Caerdydd yn boenus o araf wrth daclo’r broblem hon. Dylai fod helpu pobl yn y fflatiau hyn fod yn brif flaenoriaeth i’r Llywodraeth  – nid chwarae o gwmpas gyda’r UBI [Cyflog Sylfaenol Cyffredinol] a newidiadau ffyrdd’.

 

Llywodraeth Cymru

Mae’n debyg bod bron i £11m wedi’i wario hyd yma ar waith adfer ar 15 bloc o dai cymdeithasol yng Nghymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn “gweithio’n galed i ddatblygu opsiynau ariannu”.

Ychwanegodd llefarydd bod “natur gymhleth” y mater yn “effeithio ar gyflymder” y gwaith hwnnw.

Mae gwaith wedi’i gwblhau ar 3 adeilad yng Nghasnewydd a gwaith hefyd ar y gweill ar wyth adeilad yng Nghaerdydd a thri adeilad  yn Abertawe.