Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd athrawon yn cael codiad cyflog o 1.75%.
Daw hyn yn dilyn argymhellion gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.
Bydd y codiad yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Medi.
Penderfynodd Lywodraeth y Deyrnas Unedig rewi cyflogau’r sector cyhoeddus, ac o ganlyniad ni chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw arian ychwanegol drwy fformiwla Barnett i ddarparu ar gyfer dyfarniadau cyflog ar draws y sector cyhoeddus yn 2021-22, ac eithrio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r rhai ar y cyflogau isaf.
“Mae hwn yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ond mae iddo ganlyniadau uniongyrchol i Gymru,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg Cymru, mewn datganiad.
“Yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol ar y pwysau parhaus ac eithriadol ar eu cyllidebau o ganlyniad i’r pandemig y flwyddyn ariannol hon, gallaf gadarnhau y byddwn yn darparu, yn ogystal â’r cyllid a ddarparwyd eisoes, £6.4m arall tuag at gost y dyfarniad cyflog mewn ysgolion a’r chweched dosbarth ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.”
“Gwella cyflogau ac amodau”
Ychwanegodd: “Dyma’r drydedd flwyddyn, ers datganoli pwerau dros gyflog ac amodau athrawon, lle’r ydym wedi gallu cyflwyno newidiadau i wella cyflogau ac amodau i athrawon yng Nghymru,” meddai.
“Croesawaf gyfraniad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru i hyn a diolchaf i’r aelodau am eu gwaith.
“Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos manteision y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi ennill cyfrifoldeb dros y pwerau hyn pan gyfunir hynny â dull cadarnhaol o weithio ar y cyd â’r holl randdeiliaid.
“Wrth bennu cyflogau athrawon am y trydydd tro, rydym wedi parhau i ymwahanu oddi wrth y cynigion yn Lloegr drwy ddyfarnu cyflog uwch i athrawon yng Nghymru a chyflwyno rhai newidiadau allweddol y mae’r proffesiwn yn gofyn amdanynt.
“Wrth symud ymlaen, bydd y gwaith ymchwil ac adolygu tymor hwy sydd ar y gweill ynghylch cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru hefyd yn helpu i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn atyniadol i raddedigion a rhai sy’n newid gyrfa.”
“Cyfateb i rewi cyflog”
Dywedodd cyfarwyddwr undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, Laura Doel, eu bod nhw’n croesawu’r arian ychwanegol, ond “nad yw’n gwneud llawer i wrthwneud blynyddoedd o godiadau cyflog dan raddfa chwyddiant, sydd wedi arwain at golli cyflog, mewn termau real, ers 2010”.
“Nid yn unig y mae’r 1.75% o dan chwyddiant, ond mae’n cyfateb i rewi cyflog yn y bôn,” meddai Laura Doel.
“Yn ôl rhagolygon diweddaraf y Trysorlys, mae’r chwyddiant cyfartalog ar gyfer pedwerydd chwarter 2021 yn dangos bod y mynegai prisiau manwerthu ar 4.3%.
“Ni fydd yr arian ychwanegol yn helpu i ddatrys problemau gyda chyflenwad athrawon, a allai waethygu’n sylweddol ar y cyd â llwyth gwaith trwm a materion llesiant a gafodd eu hamlygu yn ein harolwg diweddar o arweinwyr ysgolion.
“Rydyn ni’n annog Llywodraeth Cymru i adlewyrchu ar effeithiau parhau i rewi cyflogau athrawon, a sut y bydd hynny’n taro safonau byw ein haelodau’n galed, yn dinistrio moral, a lleihau gallu’r proffesiwn i recriwtio a chadw athrawon a darpar arweinwyr ysgolion ymhellach.
“Yn olaf, rydyn ni’n galw am godiad cyflog sy’n cael ei ariannu’n llawn fel nad yw’n dod allan o gyllid ysgolion,” ychwanegodd.
“Mae awdurdodau lleol yn dioddef yn barod gyda chostau Covid, ac ni ellir pasio’r baich ymlaen at ysgolion.”
Croesawu
Roedd undeb athrawon UCAC hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.
“Mae’r proffesiwn cyfan wedi gweithio dan amodau eithriadol o heriol dros y cyfnod diwethaf ac yn llawn haeddu’r gydnabyddiaeth hon,” meddai’r ysgrifennydd cyffredinol, Dilwyn Roberts-Young.
“Gwyddom nad oedd hwn yn benderfyniad rhwydd yng ngoleuni penderfyniad Llywodraeth San Steffan i rewi cyflogau athrawon yn Lloegr, ac yn deillio o hynny, y diffyg cyllid ychwanegol cyfatebol i dalu amdano.
“Gwerthfawrogwn felly’r cyfraniad ychwanegol mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyhoeddi heddiw sy’n mynd cam o leiaf tuag at ariannu’r codiad cyflog i athrawon ysgol ac i ddarlithwyr addysg bellach.
“Edrychwn ymlaen at gyfrannu at yr adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr sydd ar y gweill.”