Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn am stormydd o daranau dros Gymru ar gyfer heddiw (dydd Mercher, 8 Medi) a fory.

De’r wlad sy’n cael ei heffeithio gan y rhybudd cyntaf, sydd mewn grym ers 10 fore heddiw ac sy’n aros mewn grym nes 9yh.

Bydd yr ail rybudd yn weithredol dros Gymru gyfan rhwng 11yb ac 8yh fory (9 Medi).

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, cyrhaeddodd y tymheredd 30.7C yng Ngogerddan, Ceredigion ddoe – y seithfed tro i’r tymheredd godi dros 30C ym mis Medi yn y Deyrnas Unedig yn yr hanner canrif ddiwethaf.

Mae’n bosib y bydd glaw trwm a mellt yn siroedd Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Mynwy, Penfro, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae disgwyl y tywydd gwaethaf yn y prynhawn, ac fe allai cawodydd achosi 30-50mm o law o fewn awr mewn ambell le.

Ar ôl mwy o law dros nos, mae disgwyl cawodydd trymach a glaw a tharanau dros Gymru, a rhannau helaeth o Loegr a’r Alban, fory.

Mae cawodydd trwm iawn yn bosib mewn rhai mannau, gyda photensial i 20-30mm o law ddisgyn o fewn awr, a gallai’r tywydd arwain at lifogydd a thrafferthion i deithwyr.