Mae cyfleuster blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg wedi ei agor yn ne Powys.

Bwriad y cyfleuster yn ôl Cyngor Powys yw “diwallu’r galw cynyddol” am leoedd i flynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe fydd y safle yn Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr, Cwm-twrch Isaf, yn darparu gofal ac addysg gynnar i 120 o blant.

Mae’r cynllun wedi costio £2 miliwn, gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu ychydig o arian fel nawdd.

Roedd lleoliad ar gyfer blynyddoedd cynnar wedi ei agor ar y safle yn 2012, ond roedd angen safle mwy yn dilyn galw sylweddol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys cylch meithrin Dechrau’n Deg, a thair ystafell ddosbarth newydd ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 5 oed.

Cyrraedd y galw

Dywedodd Phyl Davies, Aelod Cabinet Cyngor Powys dros Addysg ac Eiddo, bod y cynllun yn angenrheidiol i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg i oedrannau cynnar yn y sir.

“Un o’n nodau o fewn ein Strategaeth i Drawsnewid Addysg ym Mhowys yw gwella mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws yr holl gyfnodau allweddol,” meddai.

“Bydd y datblygiad hwn yn ein helpu i gyflwyno’r nod hwn.

“Mae’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhan hon o Bowys yn uchel ond roedd Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr wedi cyrraedd ei chynhwysedd ac roedd angen trafod hyn.

“Rwyf wrth fy modd fod y cyfleuster addas i’r diben hwn ar gyfer y blynyddoedd cynnar wedi cael ei agor erbyn hyn.

“Fe fydd yn rhyddhau lle sydd ei angen yn fawr yn Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr gan sicrhau cyfnod pontio didrafferth o’r lleoliad blynyddoedd cynnar i mewn i’r ysgol gynradd.”