Cafodd noson gyntaf y Gwobrau Cyfryngau Celtaidd ei chynnal neithiwr (7 Medi), ac roedd nifer o raglenni o Gymru ymysg yr enillwyr.
Daeth Côr Digidol Rhys Meirion i’r brig yn y categori Adloniant, Nadolig Deian a Loli gipiodd y wobr am y Rhaglen orau i Blant, ac enillodd Y Gerddorfa – Dathlu Sain yn 50 yn y categori Rhaglen Gerddoriaeth ar y Radio.
Roedd gwobr hefyd i raglen 47 Copa, a oedd yn dilyn hanes Huw Jack Brassington wrth iddo redeg ras fynydd Paddy Buckley, yn y categori Rhaglen Ddogfen Chwaraeon.
Daeth BBC Wales Investigates: The Clydach Murders: Beyond Reasonable Doubt i’r brig yn y categori Materion Cyfoes.
Mae’r Ŵyl, sy’n parhau am dridiau, yn ddathliad o dalentau ffilm a chyfryngau Cymru, yr Alban, Iwerddon, Cernyw, Galisia, Llydaw ac Ynys Manaw.
Yr holl enillwyr hyd yn hyn:
Materion Cyfoes – BBC Wales Investigates: The Clydach Murders: Beyond Reasonable Doubt, BBC Wales
Rhaglen Gerddoriaeth Fyw – Peat & Diesel: From the Barrow to the Barrowlands, MAC TV
Rhaglen Gerddoriaeth ar y Radio – Y Gerddorfa – Dathlu Sain yn 50, BBC Radio Cymru
Ffurf Fer – Le Ceangal, Tua Films
Sioe Gylchgrawn ar y Radio – Scots Radio
Drama Fer – Control, BBC Scotland Multiplatform Production
Adloniant – Côr Digidol Rhys Meirion, Cwmni Da
Drama Radio – Crossing The Red Line, Hugh Hick Productions
Rhaglen Blant – Nadolig Deian a Loli, Cwmni Da
Comedi Radio – A Perforated Ulster, Hole in the Wall Gang Limited
Rhagfen Ddogfen Chwaraeon – 47 Copa, Cwmni Da
Animeiddiad – Rawr, Sorcha McGlinchey
Mae Y Côr (Cwmni Da), Rybish (Cwmni Da), 35 Diwrnod (Boom Cymru), Iaith ar Daith (Boom Cymru), Kizzy Crawford, Autism and Me (Radio Wales), a Rhys Ifans (Radio Cymru) ymysg y rhaglenni teledu a radio eraill sydd wedi’u henwebu.
Mae Ifan Evans wedi’i enwebu yn y categori Cyflwynydd Radio’r Flwyddyn hefyd, ac mae dau enwebiad i Eirlys, Dementia a Tim (Cwmni Da).