Mae adeilad gwag yn Llanbed wedi cael ei brynu gan Gyngor Ceredigion fel rhan o gynllun i adfer strydoedd mawr y sir.

Fel rhan o Raglen Datblygu ac Adfywio’r Cyngor, bydd 10 ac 11 Sgwâr Harford yn cael eu trawsnewid yn unedau masnachol a fflatiau.

Mae’r prosiect peilot am geisio gwneud defnydd o adeiladau gwag mewn trefi ar draws y sir fel eu bod nhw o fudd i fusnesau a chymunedau lleol.

Tra bydd y gwaith adnewyddu’n digwydd, mae murlun wedi cael ei baentio ar flaen yr adeilad.

Fe gafodd y darn celf ei gwblhau gan yr artist Hannah Davies, sydd wedi ennill gwobrau am ei gwaith.

Fe wnaeth hi baentio’r murlun ar ôl cael ei dylanwadu gan adeiladau, diwylliant a nodweddion eraill o dref Llanbed, yn ogystal ag elfennau o fyd natur.

‘Hwb i’r economi’

Dywed y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet dros yr Economi, bod y datblygiad yng nghanol Llanbed yn un “cyffrous iawn”.

“Mae’n wych gweld sut y gall y Cyngor gymryd camau i adfywio a dod â bywyd i ganol ein trefi,” meddai.

“Rydyn ni’n yn edrych ymlaen at weld y cynlluniau’n siapio, a byddan nhw’n sicr o roi hwb i’r economi a chefnogi’r gymuned leol.

“Ac yn y cyfamser, rydyn ni’n gobeithio y bydd y ddelwedd o flaen y siop yn dod â chynhesrwydd, hapusrwydd a gwenau i strydoedd Lampeter ac yn ysbrydoli pobl i fod yn greadigol.”