Mae Ant McPartlin a Declan Donnelly wedi ennill y wobr am y cyflwynwyr teledu gorau yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol am yr ugeinfed tro ar y trot.

Wrth siarad ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Ant McPartlin mai ennill y wobr y tro hyn sy’n golygu mwyaf i’r ddau.

“Roedden ni’n siarad yn y car ar y ffordd yma a’r flwyddyn gyntaf enillon ni NTA, roedd Tony Blair yn brif weinidog a Newcastle United wedi cymhwyso i’r Champions League. Mae’n dangos pa mor bell yn ôl oedd hynny,” meddai Ant McPartlin ar ôl ennill y wobr.

“Ond wyddoch chi be? Hon sy’n golygu mwyaf i ni. Ugain mlynedd. Mae hyn wir yn arbennig. Does ganddoch chi ddim syniad pa mor arbennig yw hyn.”

Curodd y ddau Piers Morgan, Bradley Walsh, a Holly Willoughby ac Alison Hammond er mwyn dod i’r brig.

Roedd gwobr hefyd i I’m a Celebrity… Get Me Out of Here!, ac wrth dderbyn y wobr, fe wnaeth Ant McPartlin ddiolch i Gymru. Cafodd y gyfres ei ffilmio yng Nghastell Gwrych ger Abergele yn lle Awstralia oherwydd cyfyngiadau Covid.

“Diolch. Roedd hi’n newid mawr ei wneud yng Nghymru llynedd, ond roedd yn hollol wych,” meddai.

“Fe wnaethom ni garu gwneud hynny, a dydyn ni methu aros i wneud hynny eto eleni.”

Aeth y wobr am y ddrama newydd orau i It’s A Sin, a chyflwynodd Russell T Davies y wobr i’r “rhai y gwnaethom ni eu colli, y rhai wnaeth fyw, y rhai wnaeth ddysgu a’r rhai wnaethom ni eu caru” yn ystod argyfwng Aids.

Yn ystod y seremoni yn yr O2 yn Llundain neithiwr (9 Medi), enillodd Finding Derek gyda Kate Garraway, The Great British Bake Off, a rhaglen gomedi Ricky Gervais, After Life, wobrau hefyd.