Mae ffilm newydd sy’n cael ei disgrifio fel “darn i gyd-fynd” â’r ffilm Gymreig eiconig Twin Town, yn cael ei dangos heno am y tro cyntaf yn nhref Llanelli.

Ac mae arbenigwr ffilmiau wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn disgwyl gweld “hiwmor gwyllt, ddim yn annhebyg i Twin Town“.

Bydd La Cha Cha yn cynnwys y sêr Rhys Ifans, Dougray Scott a Keith Allen (sydd hefyd yn cyfarwyddo), a oedd ill tri yn y Twin Town gwreiddiol.

Fe gafodd y ffilm newydd ei saethu yng nghyfnod y pandemig ar ôl i’r cast ffurfio swigen ym Mhenrhyn Gŵyr.

Mae’n debyg bod elfennau o’r ffilm wedi eu saethu ar ffonau symudol hefyd.

Dydy’r ffilm ddim yn ddilyniant uniongyrchol i Twin Town, ond mae disgwyl iddi efelychu nodweddion ohoni.

Bydd premiere La Cha Cha yn cael ei chynnal heno (9 Medi) ym Mharc y Scarlets, gyda sêr byd-enwog i’w disgwyl yno.

“Brawd bach”

Mae La Cha Cha yn cael ei disgrifio fel “darn i gyd-fynd” â Twin Town.

Mae’r arbenigwr ffilmiau, Gary Slaymaker, yn edrych ymlaen at gael gwylio’r ffilm dros y penwythnos, ac yn disgwyl nodweddion tebyg i’r ffilm wreiddiol.

“Fydden i’n disgwyl hiwmor gwyllt, ddim yn annhebyg i Twin Town,” meddai Gary Slaymaker am y ffilm newydd.

“Dw i’n cael yr argraff bod hi’n rhyw fath o frawd bach i’r ffilm yna.

“Mae’r cast yn hen gyfarwydd â gweithio gyda’i gilydd hefyd.

“O’n i’n darllen neithiwr am y plot tu ôl i’r ffilm, ac mae’n swnio’n grêt.

“Mae e’n sicr yn perthyn i’r un byd â Twin Town, ond â chymeriadau gwahanol.”

Twin Town yn “eiconig”

Pan gafodd Twin Town ei rhyddhau yn 1997, daeth hi’n sydyn yn ffilm boblogaidd gan ei bod hi’n portreadu Cymru mewn ffordd ffres ac unigryw.

“Wrth gwrs, mae’r buzz yn dal yna pan rydych chi’n sôn am Twin Town achos mae hi’n eiconig o ran ffilmiau Cymreig,” meddai Gary Slaymaker.

“Mae chwarter canrif flwyddyn nesaf ers i’r ffilm honno gael ei rhyddhau.

“Dw i’n dal i gofio eistedd yn y sinema yn ei gweld hi – i le’r aeth yr amser!

“Oedden ni mor gyfarwydd ar y pryd o ran ffilmiau Cymreig o frethyn, beirdd, a ffermwyr – a doedd hynny ddim yn cynnig darlun modern o Gymru i’r byd.

“Wrth gwrs, doedd Cyngor Abertawe ddim yn keen ar y ffilm, gan ei bod hi ddim yn dangos y ddinas yn y golau gorau, efallai.

“Ond fe gydiodd hi achos, er gwaetha’r holl ddrygioni, roedd y cymeriadau mor annwyl.

“Dw i’n cofio bod yng nghwmni Huw Ceredig ambell i noswaith, ac oedd bois yn dod draw bron i foesymgrymu o flaen ‘Fatty Lewis’ [ei gymeriad yn y ffilm wreiddiol], ac roedd e wrth ei fodd â hynny!”

Abertawe, lleoliad y ffilm Twin Town

“Damwain hyfryd”

Mae sïon am ddilyniant i Twin Town wedi bod ers blynyddoedd, gydag ambell blot wedi cael eu diystyru.

Roedd Gary Slaymaker yn bryderus ar y dechrau pan glywodd fod yna ffilm arall ar ei ffordd.

“Y drafferth pan mae pobol yn dweud bod ‘Twin Town 2’ ar ei ffordd, mae gen ti ddisgwyliadau uchel iawn wedyn,” meddai.

“Damwain hyfryd oedd Twin Town.

“Doedd dim un ohonyn nhw’n disgwyl y byddai hi’n troi mewn i gymaint o ffilm gwlt ag y mae hi.

“Dwy, dair blynedd yn ôl pan ddechreuon nhw sôn bod dilyniant i Twin Town ar ei ffordd, ro’n i’n poeni y gallai hi fod ddim cystal, neu ddim yn gweithio.

“Ti ddim eisie gwneud y gwreiddiol edrych yn wael achos bod y sequel ddim cystal.”

Parc y Scarlets, Llanelli

Capten Cymru yn y ffilm!

Mae’r premier ym Mharc y Scarlets yn siŵr o ddenu sêr y byd rygbi, ac mae rhai ohonyn nhw, fel Alun Wyn Jones – capten carfan rygbi Cymru a’r Llewod – a Scott Quinnell, hyd yn oed yn gwneud ymddangosiad yn y ffilm newydd.

“Bydd hi’n neis gweld pwy sy’n troi fyny iddi achos bod hi’n premier byd,” meddai Gary Slaymaker.

“Dw i’n gwybod fydd sawl un o’r sêr rygbi yna, felly fyddai hi’n dda pe bai’r cast yna.

“Does gen i ddim syniad os fydd ‘y brodyr Lewis’ – Rhys a Llŷr [Ifans] yna.

“Ond fydd hi’n noson eitha’ sbesial, a dylen ni fod yn gwneud hoopla mawr pan wyt ti’n lansio ffilm Gymreig newydd hefyd!”