Dydi’r system gyfryngau a chyfathrebu bresennol ddim yn gweithio i Gymru o gwbl, yn ôl aelod newydd o Fwrdd y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol sy’n dweud bod cynnwys actorion a chynyrchiadau o Gymru yng ngwobrau BAFTA Cymru’n “ymgais wan i’n cynnwys ac i’n prynu”.

Mae’r actores Sharon Morgan, ynghyd â’r cyfarwyddwr Llion Iwan, newydd gael eu hethol i’r Bwrdd sy’n datblygu’r drafodaeth ar ddatganoli darlledu.

Gyda phenderfyniadau ar ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud yn Llundain ar hyn o bryd, gwaith y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol ydy datblygu rheoliadau a strwythurau wrth baratoi i ddatganoli’r maes darlledu i Gymru.

Yn ôl yr actores Sharon Morgan, mae’r system yn gweithio yn erbyn Cymru, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr enwebiadau ar gyfer gwobrau’r BAFTAs eleni.

“Ymgais wan i’n cynnwys”

Wrth edrych ar yr enwebiadau, mae’n “anodd” gweld unrhyw gysylltiad â Chymru yn y nifer helaethaf o’r enwebiadau, meddai.

Nid gwobrau Cymru ydyn nhw, meddai, ond “ymgais wan i’n ‘cynnwys’ ac i’n prynu”.

“Dw i’n edrych ymlaen at gael cyfrannu i waith y Cyngor hwn gan nad oes dwywaith nad yw’r system gyfryngau a chyfathrebu bresennol yn gweithio i Gymru o gwbl,” meddai Sharon Morgan, sy’n un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws ac yn adnabyddus am ei rhannau yn Martha, Jac a Sianco, Tair Chwaer a Resistance.

“Y system ar hyn o bryd ydy bod pwerau dros y cyfryngau a chyfathrebu yng Nghymru yn gorwedd gyda Llywodraeth Lloegr.

“Nid yn unig mae hi’n system nad yw’n gweithio o’n plaid, mewn gwirionedd mae hi’n system sydd yn rhagweithiol weithio yn ein herbyn.

“Mae hyn yn cael ei grisialu mwy neu lai wrth i ni edrych ar yr enwebiadau ar gyfer y gwobrau BAFTA sydd wedi cael eu cyhoeddi’r wythnos hon.

“Ond dyna ni, nid ein gwobrau ni ydy gwobrau BAFTA, fel nad ein cyfryngau ni sydd gennym mewn unrhyw faes yma yng Nghymru.

“Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru’ yw’r BAFTAs, nid gwobrau Cymru ac mae hynny’n glir – ryw ymgais wan i’n ‘cynnwys’ ac i’n prynu.

“Petawn yn edrych ar yr enwebiadau, mae hi’n anodd gythreulig i weld unrhyw gysylltiad gyda Chymru yn y nifer helaethaf o’r enwebiadau, gydag eithriadau prin.

“Mae cael person o Gymru yn rhan o’r cynhyrchiad yn ddigon o ddolen. Mae ein diwylliant a’n iaith mwy neu lai ar goll yn y ‘gwobrau’ hyn.”

‘Diflannu’

Yn yr un modd, mae diwylliant a iaith Cymru ar goll ym mhob maes cyfathrebu a’r cyfryngau ac “yn ddiwylliannol ry’n ni’n diflannu”, meddai Sharon Morgan wedyn.

“Rydyn ni yn ei weld ym maes, nid dim ond y byd ffilm – ym maes newyddion, ym maes radio a theledu lleol; gyda diffyg mynediad i’r wê; ar y cyfryngau cymdeithasol; ac ym maes newyddiaduraeth ymchwiliadol ar lefel leol a Chenedlaethol,” meddai.

“Nid Cymru sydd yn cael ei hadlewyrchu i ni ar y cyfryngau o gwbl, ond dyna yw’r argraff a roir.

“Dyw’r system bresennol ddim yn gweithio i Gymru, yn ddiwylliannol ry’n ni’n diflannu. A dyma pam mae gwaith y Cyngor hwn mor bwysig yn llunio a llywio’r maes cyfathrebu a chyfryngau Cymraeg a Chymreig wrth i ni symud tuag at ddatganoli darlledu.

“Gobeithiaf y gallaf gyfrannu i’r sgwrs a’r llywio hwn gyda’r profiadau sydd gen i.”

Mae golwg360 wedi gofyn i BAFTA am ymateb.

Cyhoeddi’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru 2021

Sgwrs Dan y Lloer gyda Kristoffer Hughes, Dolig Ysgol Ni: Maesincla, Pawb a’i Farn, ac Am Dro! ymysg yr enwebiadau eleni