Mae’n debyg fod ffiniau etholiadol newydd Cymru wedi eu cyhoeddi diwrnod yn gynnar gan y wefan wleidyddol adain-dde Guido.

Mae’r map etholiadol newydd yn dangos y bydd etholaethau Bangor a Chaernarfon yn cael eu rhannu’n ddwy, yn ogystal ag etholaeth Ceredigion yn cael ei chyfuno â Gogledd Sir Benfro.

Mae etholaeth Castell Nedd hefyd am ddod yn rhan o etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.

“Dyma’r cynigion cyntaf ar gyfer etholaethau newydd Cymru sydd wedi cael eu rhyddhau ddiwrnod yn gynnar gan Guido, dyma’r olwg gyntaf ar fap etholiadol newydd Cymru 32 sedd (i lawr o 40),” meddai’r wefan Election Maps UK.

Cymru yn gweld y cwtogi mwyaf

Fe fu cryn ddisgwyl ers tro am y cyhoeddiad fod nifer y seddi yng Nghymru yn cael ei thorri o 40 i 32.

Cafodd Lloegr wybod am y newid i’w ffiniau etholaethol ym Mehefin. Yno, bydd y nifer yn gostwng o 553 i 543, tra bydd nifer aelodau’r Alban yn gostwng o 59 i 57.

Fydd dim newid yn ffiniau etholiadol Gogledd Iwerddon.

Yn ôl Deddf 1986, mae’n rhaid i bob etholaeth a gafodd ei llunio gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr.

Mae gan Ynys Môn statws gwarcheidiol oherwydd maint y boblogaeth, sy’n golygu nad yw’r etholaeth yn cael ei chynnwys yn yr adolygiad.

Mae gan bedair etholaeth ledled y Deyrnas Unedig statws gwarcheidiol oherwydd eu daearyddiaeth unigryw – Orkney a Shetland, sedd Ynysoedd Gorllewinol yr Alban na h-Eileanan an Iar, a dwy sedd Ynys Wyth.

Bydd y newid hwn yn cael effaith ar wleidyddiaeth yng Nghymru a byddan nhw’n cael eu gweithredu yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf fis Mai 2024.

Bydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru yn dechrau cyfnod ymgynghori o wyth wythnos, lle gall y cyhoedd rannu eu barn am yr etholaethau o y fory (dydd Mercher, Medi 8).

Bydd y broses ymgynghori yn dod i ben ar Dachwedd 3.