Mae Boris Johnson wedi ysgrifennu at brif weinidogion eraill y Deyrnas Unedig i gwrdd fis nesaf i drafod iechyd a gofal cymdeithasol.
Mewn llythyr at Brif Weinidogion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, dywedodd Prif Weinidog y DU ei fod yn gobeithio y gall y cyfarfod gael ei gynnal wyneb yn wyneb, fis nesaf.
Mae bwriad ganddo i drafod ei gynlluniau dadleuol i godi ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled y DU.
Yn ogystal mae bwriad ganddo i drafod adferiad y pedair gwlad wrth gamu allan o bandemig Covid-19.
Mae’n honni bydd y dreth wedi ei neilltuo ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn codi £12 biliwn, ledled y DU, ar gyfartaledd y flwyddyn.
Bydd disgwyl yn gyfreithiol i Lywodraeth Cymru wario’r arian ychwanegol hwn ar feysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yr arian o’r ardoll iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei gyfeirio yn syth o Gyllid a Thollau EM (HMRC) at y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Mae Boris Johnson wedi cyfiawnhau torri addewid maniffesto drwy ddweud nad oedd “pandemig byd-eang yn rhan o faniffesto neb”.
Yn ôl Llywodraeth Prydain, bydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn derbyn £2.2bn yn ychwanegol o wariant gofal cymdeithasol sy’n deillio o’r cynnydd yn y dreth incwm.
Llythyr gan Boris Johnson i’r prif weinidogion eraill yn cynnig cwrdd fis nesaf i drafod iechyd a gofal cyndeithasol. pic.twitter.com/CiePaqp473
— Elliw Gwawr (@elliwsan) September 7, 2021
Yn ei lythyr fe ddywedodd: “Bydd y Llywodraeth yn darparu £12 biliwn ychwanegol mewn iechyd a gofal cymdeithasol ledled y DU ar gyfartaledd y flwyddyn. Mae hwn yn gynnydd sylweddol a pharhaol mewn gwariant cyhoeddus.
“Er bod polisi iechyd, wrth gwrs, wedi’i ddatganoli ar draws y Deyrnas Unedig, mae darpariaethau gwahanol yn cael eu gwneud yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, yr her ehangach yw dysgu sut allwn ni gydweithio ar ddulliau a gweld beth sy’n gweithio’n dda a’r hyn nad yw’n gweithio cystal.
‘Cydweithio agos’
“Bydd y Llywodraeth hefyd yn cynyddu cyfraddau treth difidend 1.25 pwynt canran o fis Ebrill 2022, a bydd refeniw yn helpu i ariannu’r setliad hwn.
“Bydd yr arian hwn yn darparu adnoddau ar gyfer camau nesaf ein brwydr ledled y DU yn erbyn y pandemig (gan gynnwys ar gyfer y rhaglen frechu a’r rhaglen Profi a Olrhain) a fydd o fudd i bobl ym mhob rhan o’n gwlad.
“Rwy’n gwybod bod gan gydweithwyr yn y gweinyddiaethau datganoledig eu huchelgeisiau eu hunain i ddiwygio a gwella’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol i oedolion yng Ngogledd Iwerddon, Cymru a’r Alban.
“Ond dylem barhau i sicrhau bod ein swyddogion yn cydweithio’n agos wrth i ni ddatblygu ein diwygiadau amrywiol.
Mae’r llythyr hefyd yn nodi bwriad Boris Johnson i drafod “Cyfrifoldebau” a “rolau” y prif weinidogion yng Nghynhadledd amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig yn Glasgow, fis Tachwedd.
Clo’r llythyr trwy gydnabod nad ydynt, fel arweinwyr pedair gwlad, yn “cytuno bob tro” ond mae’n gobeithio y gall trafodaethau a chydweithio barhau.
Aelodau Seneddol i bleidleisio ar godi Yswiriant Gwladol