Dylai pob llywodraeth yn y Deyrnas Unedig dderbyn yr un lefel o graffu dros Covid-19, meddai Simon Hart.
Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, dylai Mark Drakeford dderbyn yr un raddfa o graffu â Boris Johnson.
Mae disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus i benderfyniadau Llywodraeth San Steffan yn ystod y pandemig ddechrau flwyddyn nesaf, gan ganolbwyntio ar y Deyrnas Unedig i gyd.
Yng Nghymru, mae’r gwrthbleidiau, grwpiau elusennol, a theuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn sgil Covid-19 wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad eu hunain hefyd.
Fis diwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n trafod gyda Llywodraeth San Steffan ynghylch manylion yr ymchwiliad ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.
“Archwiliad dadansoddol”
Wrth siarad gyda newyddiadurwyr dywedodd Simon Hart ei bod hi’n “hanfodol bod pob un o lywodraethau’r Deyrnas Unedig yn derbyn yr un lefel o graffu ac archwilio yn yr ymchwiliad hwn neu mewn ymchwiliadau”.
“Boed hynny’n digwydd drwy ymchwiliad ar gyfer yr holl Deyrnas Unedig sy’n edrych ar rôl pob llywodraeth ddatganoledig neu boed ymchwiliad penodol i Gymru yn gallu cyflawni’r un lefel o graffu, mae hynny’n fater o farn.
“Cyn belled â’i fod yn gofyn y cwestiynau iawn i’r bobol iawn ac yn rhoi digon o egni a phwyslais ar benderfyniadau’r llywodraethau datganoledig hynny, fel arall, ni fyddwn ni’n cael archwiliad dadansoddol ynghylch yr hyn aeth yn dda a’r hyn aeth yn llai da.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod Mark Drakeford yn derbyn yr un raddfa o graffu â Boris Johnson.”
“Cynhwysfawr”
Bydd ymchwiliad sy’n cael ei arwain gan farnwr yn cael ei sefydlu yn yr Alban erbyn diwedd y flwyddyn, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi galw am yr un fath yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fis diwethaf eu bod nhw’n “ystyried bwriad Llywodraeth yr Alban ar y cyd â thrafodaethau parhaus â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch manylion yr ymchwiliad pedair cenedl”.
“Rydyn ni’n chwilio am ymrwymiad y byddai ymchwiliad pedair cenedl yn mynd i’r afael yn gynhwysfawr gyda gweithredoedd Llywodraeth Cymru a phrofiadau pobol yng Nghymru.”