Ni fydd merched Affganistan yn cael chwarae chwaraeon – gan gynnwys criced – o dan gyfundrefn newydd y Taliban.
Yn dilyn ymadawiad yr Unol Daleithiau a Nato o’r wlad, mae’r Taliban wedi sefydlu llywodraeth dros dro cwbl wrywaidd sy’n bwriadu gosod rheolau llym ar yr hyn all ferched yn y wlad ei wneud.
Wrth siarad â’r darlledwr o SBS News, dywedodd dirprwy bennaeth comisiwn diwylliannol y Taliban, Ahmadullah Wasiq, nad yw chwaraeon yn cael ei ystyried yn “angenrheidiol” i fenywod ei chwarae.
Bydd tîm dynion Affganistan yn chwarae Awstralia mewn gêm Brawf yn ystod mis Tachwedd, ond mae’r sylwadau diweddaraf gan y Taliban yn codi amheuon a fydd y gêm honno yn cael ei chynnal.
O dan reolau’r Cyngor Criced Rhyngwladol, rhaid i bob un o’r 12 aelod llawn gael tîm menywod cenedlaethol, gyda dim ond aelodau llawn yn gallu chwarae gêmau Prawf.
Gorchuddio
Ym mis Tachwedd 2020, dyfarnwyd cytundebau i 25 o gricedwyr benywaidd gan Fwrdd Criced Affganistan.
Dywedodd Ahmadullah Wasiq wrth SBS News: “Dydw i ddim yn credu y bydd menywod yn cael chwarae criced am nad oes angen i ferched chwarae criced.
“Wrth chwarae criced, efallai y byddan nhw mewn sefyllfa lle na fydd eu hwyneb a’u corff yn cael eu gorchuddio.
“Nid yw Islam yn caniatáu i fenywod gael eu gweld fel hyn.
“Rydym wedi brwydro dros ein crefydd fel bod Islam yn cael ei ddilyn.
“Mae’n amlwg y bydd eu cyrff yn cael eu gweld ac na fyddan nhw’n dilyn y drefn o ran gwisgoedd merched, ac nid yw Islam yn caniatáu hynny.
“Ni fyddwn yn cefnu ar ein rheolau Islamaidd.”