Mae dros 200 o bobol yn dysgu Cymraeg drwy gyfrwng Tsieinëeg – diolch i dddynes o Shanghai.

Yn wreiddiol o Shanghai, Tsieina, fe gyfarfu YuQi Tang a’i gŵr, Scott Griffiths, sy’n wreiddiol o Gaerdydd pan oedd o’n dysgu Saesneg yno.

Symudodd y ddau i Gymru ddwy flynedd yn ôl pan ddechreuodd hi ddysgu Cymraeg drwy Duolingo.

Mae YuQi yn cael ei hadnabod fel Morwenna yng Nghymru, ac ers dechrau’r cyfnod clo mae hi wedi bod ar gyrsiau gyda Dysgu Cymraeg Gwent.

Gan nad yw nifer o’r llwyfannau dysgu digidol ar gael yn China, doedd hi ddim yn hawdd dechrau dysgu Cymraeg i eraill yno.

Ond yn ddiweddar, mae Morwenna, sy’n byw yng Nghei Newydd, Ceredigion wedi sefydlu sianel ar BiliBili, sy’n cyfateb i YouTube yn Tsieina, er mwyn dysgu Cymraeg trwy gyfrwng Tsieinëeg.

Manteisio ar bob cyfle

Shanghaieg oedd Morwenna’n siarad ar yr aelwyd, gan ddysgu Tsieinëeg yn yr ysgol.

Clywodd Gymraeg am y tro cyntaf wrth ymweld â Chymru gyda’i gŵr, a chyn hynny doedd hi ddim yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith, na bod ei gŵr yn gallu ei siarad.

Rhyfeddodd at yr iaith, a mynd ati i’w dysgu. Ers symud i Gymru, mae hi wedi bod yn mynychu gwersi ar-lein.

“Pan oeddwn i yn byw yn Tsieina, roedd yn anodd iawn dysgu’r iaith. Mae gen i dros 200 o ddilynwyr ar y fy sianel erbyn hyn, ac yn ogystal â dysgu’r iaith iddyn nhw, dw i hefyd yn eu haddysgu am y diwylliant a phethau sy’n unigryw i Gymru. Pethau fel gwneud pice ar y maen neu’r Eisteddfod!” meddai Morwenna.

“Mae wedi bod yn braf iawn cael siarad yn Gymraeg dros y ffôn gyda Mair, hen fodryb fy ngŵr.

“’Dyn ni wedi bod yn darllen nofel ‘Un Noson Dywyll’, T Llew Jones, gyda’n gilydd a nawr wedi symud ymlaen i’r Mabinogi mewn hen Gymraeg, sy’n ddiddorol iawn.”

Mae Morwenna yn manteisio ar bob cyfle mae hi’n ei gael i ddefnyddio’r iaith, ac yn annog dysgwyr newydd eraill i wneud yr un peth.

“Mae’n eithaf hawdd rhagweld cwestiynau fydd siaradwyr Cymraeg yn eu gofyn i chi – pam dysgu Cymraeg, pam symud i Gymru ac ati, ond mae angen i ddysgwyr fentro siarad mewn sefyllfaoedd eraill er mwyn ymestyn eu geirfa, a’u hunain.

“A’r peth pwysicaf un ydy peidio bod ofn gwneud camgymeriadau gan fwynhau’r her o siarad iaith newydd.”

“Edrych ymlaen”

Mae Morwenna wedi’i phenodi i swydd newydd gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ddiweddar, fel tiwtor Tsieinëeg, lle y bydd hi’n creu deunyddiau yn Saesneg, Cymraeg a Tsieinëeg.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn fy swydd newydd gyda’r brifysgol,” ychwanegodd.

“Maen nhw yn barod wedi rhoi gwybod y bydda i’n gallu dal ati i ddysgu Cymraeg trwy ganolfan Rhagoriaeth y brifysgol, a dw i’n edrych ymlaen at ddysgu geirfa newydd fydd yn ddefnyddiol ar gyfer fy ngwaith.”

  • Bydd cyrsiau newydd i ddechreuwyr ddysgu Cymraeg yn dechrau yn hwyrach y mis yma – dim ond £45 am flwyddyn gyfan. Am fwy o wybodaeth ewch i dysgucymraeg.cymru