Mae Castell Gwrych, sy’n cael ei ddefnyddio fel safle’r rhaglen I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here! wedi cael ei fandaleiddio.

Digwyddodd hyn ar y diwrnod olaf cyn trosglwyddo’r castell i gynhyrchwyr y rhaglen.

Mae rhaglen realiti ITV yn dychwelyd i Gastell Gwrych am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl i’r pandemig orfodi cynhyrchwyr i ganslo cynlluniau i ffilmio yn Awstralia.

Dywedodd neges ar gyfrif Twitter y castell: “Fe wnaeth ein diwrnod olaf ein hatgoffa pa mor bell rydyn ni wedi dod, ond hefyd faint sydd angen ei wneud dros y blynyddoedd nesaf.

“Roedd yn drueni mawr gweld bod rhywun wedi difrodi un o’r bylchfuriau sydd wedi’i hadferu ar y lawnt ddwyreiniol ar ein diwrnod olaf.

“Mae hyn yn dangos y dasg enfawr sydd gennym o’n blaenau!”

Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod y castell wedi cael ei effeithio gan ymosodiadau tân, fandaliaeth a phobol yn lladrata yn y gorffennol.

“Difrodi”

“Credwn ei bod yn bwysig bod pobol yn ymwybodol, hyd yn oed yn yr 21ain ganrif, fod tirnodau hanesyddol yn dal i gael eu difrodi a’u gadael i ddirywio,” meddai cynrychiolydd ar ran yr ymddiriedolaeth.

Fe gadarnhaodd y castell ei fod ar gau i’r cyhoedd ddydd Sul (5 Medi) oherwydd y rhaglen ITV ac na fyddai’n ailagor tan 2022.