Mae’r RSPCA wedi condemnio’r person a saethodd gath yn farw ym Mhort Talbot.

Cafodd Morse, sy’n ddwy oed, ei saethu â dryll awyr ger cartref ei berchennog yn Nyffryn Rhondda, a bu farw wrth i filfeddyg geisio tynnu dwy fwled o’i stumog.

Roedd y gath ddu a gwyn wedi cael ei mabwysiadu gan Elena Lee fel cath fach, a daeth cymydog o hyd iddo wedi’i anafu mewn gwair ger Ffordd Afan ar 3 Medi, cyn mynd â fo at filfeddyg.

Mae’r RSPCA yn annog perchnogion anifeiliaid anwes yn yr ardal i fod yn wyliadwrus, ac yn parhau i alw am fwy o reoleiddio defnydd o ddrylliau a drylliau awyr.

Dros yr 20 mis diwethaf, mae’r RSPCA wedi derbyn nifer “brawychus” o ddigwyddiadau lle mae anifeiliaid wedi cael eu saethu â drylliau awyr neu ddrylliau.

“Trafferth deall”

“Byddai Morse fel arfer yn disgwyl amdana i yn y tŷ pan dw i’n cyrraedd adre o’r gwaith ond doedd e ddim yno ar 2 Medi, ac fe wnes i ddechrau poeni,” meddai Elena Lee.

“Fe wnes i gofrestru fe fel ar goll ar nifer o wefannau lleol a dweud wrth fy nghymdogion, a oedd yn hoff iawn ohono, i gadw golwg.

“Roedd e’n gath mor unigryw a chyfeillgar; roedd gennym ni gysylltiad arbennig ac roedd e wedi bod yn gefnogaeth anferth i mi dros y blynyddoedd.

“Does gen i mo’r geiriau ar y funud, dw i mor drist o’i golli yn y ffordd hon a dw i’n cael trafferth deall sut allai neb wneud hyn.”

“Ddim yn anghyffredin”

Mae dirprwy brif ymchwilydd yr RSPCA, Gemma Black, yn ymchwilio i’r digwyddiad ac yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

“Mae tu hwnt i ddealltwriaeth fod unrhyw un yn meddwl ei fod e’n dderbynion saethu at anifeiliaid diniwed,” meddai Gemma Black.

“Yn anfoddus, dydi ymosodiadau creulon a disynnwyr fel hyn ddim yn anghyffredin.

“Mae’r anafiadau sy’n cael eu hachosi gan yr arfau hyn yn erchyll ac yn aml yn farwol, ac mae nifer o berchnogion anifeiliaid anwes yn cael eu gadael yn gwbl amddifad, fel Elena.”

Ers dechrau 2020, mae mwy na 370 o achosion wedi’u hadrodd i’r elusen gan bobol sy’n credu bod dryll neu ddryll awyr wedi’i ddefnyddio i dargedu anifail yn y Deyrnas Unedig.

Mae achosion diweddar yn cynnwys cath o’r enw Obi a gafodd ei saethu yn ei stumog ym Mae Colwyn fis Mehefin, a chath ddu a gwyn, Luna, yn ardal Hendy Gwyn ar Daf a chath fach o’r enw Cosmo a yn y Barri a gafodd eu saethu fis Rhagfyr llynedd.

Cafodd gwylan anafiadau difrifol ar ôl cael ei saethu gyda thair bwled o ddryll awyr yn y Rhyl llynedd hefyd, a bu’n rhaid ei roi i gysgu.

Gallai addysg well, hyfforddiant diogelwch sylfaenol i berchnogion, ac eglurhad manwl o’r gyfraith – gan gynnwys gofyniadau cyfreithiol tuag at anifeiliaid – helpu i amddiffyn anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt rhag ymosodiadau fel hyn, meddai.