Gallai etholaeth Arfon ddiflannu yn dilyn adolygiad gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.

Dan y cynlluniau newydd byddai etholaeth Arfon, sydd â 43,215 o etholwyr, yn cael ei hollti gyda Chaernarfon yn cael ei chynnwys yn Nwyfor Meirionnydd a Bangor yn etholaeth Aberconwy.

Gallai seddi’r hen Wal Goch yng ngogledd-ddwyrain Cymru hefyd gael eu torri, gyda De Clwyd a Dyffryn Clwyd yn diflannu.

Byddai De Clwyd, a enillwyd gan y Ceidwadwyr oddi ar Lafur yn etholiad cyffredinol 2019, yn cael ei rhannu rhwng Alun a Glannau Dyfrdwy, Wrecsam, ac etholaeth estynedig newydd Sir Drefaldwyn a Glyndŵr.

Fe fyddai sedd arall a enillwyd gan y Ceidwadwyr yn 2019, Dyffryn Clwyd, hefyd yn cael ei rhannu rhwng etholaethau Clwyd a Delyn.

Map o’r cynigion cychwynol o Adolygiad Comisiwn Ffiniau i Gymru

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus nawr yn cael ei gynnal i gynlluniau cychwynnol Comisiwn Ffiniau i Gymru dros gyfnod o 8 wythnos – ac annogir pawb i gyfrannu eu barn.

Bydd dau ymgynghoriad arall ar wahân cyn cyflwyno’r cynigion terfynol i ASau, gyda’r newidiadau terfynol i ddod i rym yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2024.

Mae cynlluniau i ail-lunio ffiniau’r Senedd yn dyddio’n ôl tua degawd, pan oedd David Cameron yn brif weinidog.

‘Torïaid yn tynhau eu gafael’

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu cynllun Llywodraeth y DU i leihau nifer yr Aelodau Seneddol o 40 i 32 .

Yn ôl Liz Saville Roberts AS, sy’n wynebu newidiadau mawr i’w hetholaeth Dwyfor-Meirionnydd mae hyn yn enghriafft o’r “camau diweddaraf ar lwybr y Torïaid i gymryd rheolaeth yn ôl i San Steffan”.

Dywedodd ei bod yn amlwg fod “Torïaid yn tynhau eu gafael ar rym.”

“O ddifreinio pobl iau a lleiafrifoedd drwy orfodi cerdyn hunaniaeth wrth fwrw pleidlais mewn etholiad, i leihau cynrychiolaeth Cymru yn y Senedd 20% – nid yw San Steffan yn cynnig llawer mwy na goruchafiaeth o ddemocratiaeth,” meddai.

“Mae gan bobl Cymru ddewis: derbyn ymosodiad diweddaraf San Steffan neu ddilyn llwybr gwahanol gyda democratiaeth wirioneddol gynrychioliadol, gyfranogol ac agored mewn Cymru annibynnol.”

Yn ôl Deddf Etholaethau Seneddol 1986, rhaid i bob etholaeth a gynigir gan Gomisiwn Ffiniau Cymru gynnwys rhwng 69,724 a 77,062 o etholwyr.

Yr unig eithriad i’r rheol hon yw Ynys Môn, a ddaeth yn etholaeth warchodedig yn ddiweddar ac felly ni fydd yn gweld unrhyw newid mewn adolygiad ffiniau etholiadol.

Mae Ysgrifennydd Cymru Simon Hart hefyd yn wynebu brwydr bosib am ei sedd wrth i Orllewin Caerfyrddin a De Penfro droi’n etholaeth newydd.

Ceredigion 

Bydd ffiniau etholaeth Ceredigion yn ehangu hefyd gan lyncu rhan o etholaeth Preseli Penfro.

Mae’r Llywydd Elin Jones wedi beirniadu’r adolygiad gan awgrymu na fydd Aelod Seneddol yn gallu cyflawni eu gwaith yn safonol oherwydd maint yr etholaeth.

Dywedodd Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, Elin Jones: ‘Mae’n 85 milltir rhwng Glandyfi a Thyddewi yn etholaeth newydd Preseli Ceredigion.

‘Mae golygu y bydd Aelod Seneddol prysur iawn ar Zoom gyda chi! Ac o leiaf 10% o Lwybr yr Arfordir mewn 1 etholaeth! 85 milltir o Landyfi i Dŷ Ddewi. Amhosib dychmygu canfasio na gwasanaethu ardal mor faith â hynna.

Tystiolaeth 

Mae’r Comisiwn wedi bod yn pwysleisio bod angen i bobl ymgymryd â’r ymgynghoriad sy’n para dros gyfnod o 8 wythnos hyd at Dachwedd 3.

“Dim ond dechrau’r drafodaeth yw hyn ac rydyn ni’n gwybod bod modd gwella arnyn nhw,” meddai Rhydian Fitter o Gomisiwn Ffiniau i Gymru wrth Golwg 360.

“Dyma’r syniadau cyntaf a dydyn ni ddim yn disgwyl y bydd yr etholaethau hyn yn newid ar sail yr adolygiad cyntaf yma.

“Mae’n dda gweld pryder a teimladau cryf ar twitter ond dydyn ni methu defnyddio tweets fel tystiolaeth ac mae angen iddyn nhw gyfrannu at yr ymgynghoriad.

“Mwy neu lai bydd pobl yn gallu dweud eu barn am yr ad-drefnu, ond yn bennaf beth rydym am weld yw syniadau amgen – felly po fwyaf o gynigion sy’n dod i law, gorau oll.

 

Comisiwn Ffiniau Cymru yn datgan ei gynlluniau wrth i nifer yr Aelodau Seneddol ostwng o 40 i 32

“Rydyn ni’n hyderus bod ein cynigion yn ymgais gyntaf gref i greu map ymarferol o 32 etholaeth i Gymru”