Mae dadleuon wedi codi eto ar ôl i’r alpaca o’r enw Geronimo gael ei ddifa yn Lloegr wythnos diwethaf.

Bu’n rhaid i feddygon ddifa’r anifail oherwydd ei fod yn dioddef o TB buchol.

Roedd yr anifail wedi profi’n positif am y clefyd ddwywaith, ond mae rhai yn honni bod canlyniadau cynnar archwiliad post-mortem yn dangos nad oedd ganddo’r clefyd.

Roedd y perchennog, Helen Macdonald, o Wickwar, de Swydd Gaerloyw, wedi bod yn brwydro ers pedair blynedd i rwystro’r anifail rhag cael ei ladd, ond fe ddaeth yr ymdrechion hynny’n ofer pan chwalodd yr achos cyfreithiol wythnos diwethaf.

Fe oedd yr alpaca wedi bod mewn cwarantîn ers 2017, pan gafodd ei brynu a’i fewnforio o Seland Newydd.

Negatif

Mewn datganiad, dywedodd cyfreithwyr Helen Macdonald bod canfyddiadau’r archwiliad post-mortem yn dangos bod yr anifail yn negatif am glefyd TB buchol.

“Ar ôl adolygiad gan Dr Iain McGill a Dr Bob Broadbent, mae’r canfyddiadau post-mortem rhagarweiniol yn negatif ar gyfer nodweddion o TB buchol,” medden nhw.

“I grynhoi, does dim crawniadau chwyddedig gwyn, sy’n nodweddiadol ar gyfer TB buchol mewn alpacas, yn yr ysgyfaint, nag yn nodau lymff bronciol, perfeddol a retroffaryngol.”

Dywedon nhw fod Helen Macdonald wedi gofyn am ganfyddiadau llawn yr adroddiad post-mortem a chanlyniadau profion ychwanegol.

Ymchwiliad

Mewn ymateb, dywedodd Dr Christine Middlemiss, prif swyddog milfeddygol y Deyrnas Unedig, bod sawl nodwedd o TB wedi eu canfod yn yr archwiliad post-mortem.

“Rydyn ni wedi cwblhau archwiliad post-mortem cychwynnol Geronimo,” meddai.

“Cafwyd hyd i nifer o friwiau tebyg i TB ac yn unol â’r arfer safonol, mae’r rhain nawr yn destun ymchwiliad pellach.

“Mae’r profion hyn fel arfer yn cymryd sawl mis, felly bydden ni’n disgwyl cwblhau’r broses post-mortem llawn erbyn diwedd y flwyddyn.”