Mae perchennog Geronimo yr alpaca wedi cyhuddo milfeddygon Llywodraeth Prydain o “lofruddio anifail cwbl iach”, ddyddiau cyn i warant am ei ddinistrio ddod i ben.

Cyrhaeddodd swyddogion yr heddlu a staff Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) fferm Helen Macdonald ger Wickwar, de Swydd Gaerloyw, am 10.45yb heddiw (dydd Mawrth, Awst 31).

Bu ymgyrchwyr, a oedd wedi bod yn gwersylla yn yr eiddo ers wythnosau, yn protestio wrth i staff Defra – oedd wedi gwisgo mewn masgiau a gogls – gludo’r alpaca oddi yno.

Roedd Geronimo, sydd wedi profi’n bositif ddwywaith am y diciâu buchol, wedi’i glymu â rhaff wen cyn cael ei sganio am ficrosglodyn a’i gludo i gerbyd aros.

Gadawodd y trelar y fferm am 11.20yb ac erbyn 12.40yh, cadarnhaodd Defra fod yr anifail wedi cael ei ddifa gan staff o’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (Apha).

Mewn datganiad, dywedodd Defra fod gwarant llys – oedd i fod i ddod i ben ar Fedi 4 – wedi cael ei ddefnyddio i atafaelu Geronimo o’r fferm a’i ewthaneiddio.

Gwrthwynebiad

Ond mae Helen Macdonald yn mynnu bod profion diciâu buchol a gafodd eu cynnal ar yr alpaca wedi dychwelyd canlyniadau positif ffug a bu’n ymgyrchu i’w atal rhag cael ei ddifa.

Mae hi nawr yn galw am weld tyst annibynnol yn bresennol pan fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal ar Geronimo, a ddaeth i’r Deyrnas Unedig o Seland Newydd yn 2017.

“Maen nhw wedi llofruddio anifail cwbl iach o Seland Newydd,” meddai.

“Doeddwn i ddim hyd yn oed yma, roedden nhw newydd wthio’u ffordd i mewn i’r lle. Fe aethon nhw ag e o’r fan hon yn fyw, ni ddylent fod wedi gwneud hynny – roedd yn greulon.

“Fy nealltwriaeth i oedd fod ganddyn nhw’r hawl i ddod i ddifa Geronimo, sut bynnag yr oedden nhw’n teimlo oedd yn briodol.

“Nid oedd ganddynt yr hawl i’w lusgo i mewn i flwch ceffylau a’i yrru i ffwrdd, ar ei ben ei hun.

“Nid lles anifeiliaid yw hynny, creulondeb anifeiliaid yw hynny.”

“Dylen nhw i gyd fod yn ddiwaith”

Mae Downing Street wedi mynegi cydymdeimlad â Helen Macdonald, gyda llefarydd swyddogol y Prif Weinidog yn dweud ei bod yn “ofidus iawn” i bobol golli anifeiliaid i’r diciâu.

“Mae’n debyg bod Boris yn cydymdeimlo, wel, nid oes angen ei gydymdeimlad arnaf,” meddai Helen Macdonald wrth ymateb.

“Roeddwn i angen iddo stopio hyn yn ei unfan pan gafodd y cyfle ac edrych beth sydd wedi digwydd.

“Maen nhw wedi penderfynu derbyn ei farwolaeth ar bob cyfrif yn hytrach na dysgu o’r wyddoniaeth.

“Dylen nhw i gyd fod yn ddiwaith.”