Mae aelod o’r Senedd wedi ymateb i ffigurau “erchyll” a ryddhawyd yn ddiweddar gan Undeb y Gweithwyr Siopau (USDAW).

Datgelodd yr undeb fod dros 90% o staff manwerthu wedi dioddef ymosodiadau, bygythiadau neu enghreifftiau o gam-drin.

Rhyddhawyd y ffigurau fel rhan o ymgyrch ‘Rhyddid rhag Ofn’ Undeb y Gweithwyr Siopau, sydd â’r bwriad o atal trais, bygythiadau a cham-drin yn erbyn gweithwyr.

Ffrwyth arolwg blynyddol yr undeb yw’r ffigurau.

Nawr mae Siân Gwenllian AoS Plaid Cymru Arfon wedi dangos ei chefnogaeth i’r undeb a’r gweithwyr.

Ymosodiad

Mae’r canlyniadau’n datgelu bod 92% o weithwyr yn ystod y deuddeg mis diwethaf wedi dioddef o enghreifftiau o gam-drin geiriol, a bod 70% wedi cael eu bygwth gan gwsmer.

Datgelodd yr arolwg hefyd fod 14% wedi dioddef o ryw fath o ymosodiad.

Mae Undeb y Gweithwyr Siopau wedi annog gweithwyr siop i roi gwybod i gyflogwyr am unrhyw ddigwyddiad, ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad yw un o bob pump o ddioddefwyr yn adrodd am ddigwyddiadau.

Dywedodd Siân Gwenllian: “Mae gweithwyr siop yn weithwyr allweddol sy’n gwneud eu gorau o dan amgylchiadau anodd dros ben.

“Maent wedi gweithio yn eithriadol o galed yn ystod blwyddyn heriol i’r diwydiant.

Bygythiadau

“Nhw, i lawer o bobl, oedd yr unig gyswllt yn ystod y pandemig.

“Hoffwn ddiolch i USDAW am rannu eu canfyddiadau, yn enwedig tystiolaeth o lygaid y ffynnon, gan weithwyr siopau.

“Mae straeon erchyll am gwsmeriaid yn defnyddio granêd mwg, yn bygwth treisio gweithwyr, ac yn cam-drin staff yn hiliol.

“Rwy’n cefnogi USDAW ac yn galw ar i weithwyr riportio’r digwyddiadau hyn, ond mewn gwirionedd, ni ddylai’r cyfrifoldeb hwnnw fod ar ysgwyddau’r gweithwyr.

“Dylai cwsmeriaid fod yn garedig, amyneddgar a pharchus bob amser.”

 

Cau siop elusen ym Mhwllheli yn dilyn ymddygiad ymosodol gan gwsmeriaid

Dros 90% o weithwyr siopau wedi dioddef ymosodiadau geiriol gan gwsmeriaid dros y 12 mis diwethaf, yn ol undeb