Mae elusen yr RSPCA wedi gorfod cau eu siop ym Mhwllheli ym Mhen Llŷn yn ddiweddar er mwyn amddiffyn staff rhag ymddygiad ymosodol gan gwsmeriaid.

Daw hyn wrth i adroddiad ddangos bod ymddygiad ymosodol tuag at weithwyr siopau wedi bod yn uchel iawn yn ystod y 12 mis diwethaf.

Roedd yr adroddiad gan undeb masnach USDAW wedi holi bron i 2,000 o bobl ar draws gwledydd Prydain sy’n gweithio yn y sector manwerthu.

Dywedodd 92% eu bod wedi dioddef camdriniaeth ar lafar yn y gweithle, gyda 70% wedi cael eu bygwth gan gwsmer.

Roedd un o bob pump o ddioddefwyr wedi peidio ag adrodd yn ôl i’w cyflogwyr am gamdriniaeth am sawl rheswm.

Yng Nghymru, roedd rhai o’r gweithwyr gafodd eu holi wedi nodi achosion penodol o fygythiad gyda chyllell, camdriniaeth hiliol, ac aflonyddu rhywiol.

‘Ymosodol’

Dywedodd llefarydd ar ran cangen Gorllewin Gwynedd yr RSPCA bod ymddygiad o’r fath yn rhywbeth newydd ers y pandemig.

“Dydyn ni heb brofi hyn erioed o’r blaen,” meddai wrth golwg360.

“Fe gawson ni nifer o bobl yn trio dod i mewn i’r siop heb fasgiau, er bod gennym ni bolisi llym o ’dim masg, dim mynediad,’ a oedd yn cael ei nodi’n glir yn y ffenest ac ar y wefan.

“Roedd rhai yn mynd yn ymosodol ar lafar, gydag un dyn yn pwnio ar y ffenest gan achosi peth gofid i aelod o’n staff ni.

“Doedd hyn ddim i wneud â rhagfarn, ond mae ein staff yn disgyn i’r categori bregus.

“Yr unig opsiwn i ni oedd cau’r siop am fis Awst – sef y mis gorau inni fel arfer yn ariannol – a hynny i atal y staff rhag cael eu cam-drin.”

‘Digon yw digon’

Mae USDAW wedi lansio ymgyrch yr wythnos hon i geisio lleihau’r achosion hyn.

Dywedodd Paddy Lillis, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, bod angen cyfreithiau mwy cadarn i amddiffyn gweithwyr siopau.

“Mae’n dorcalonnus clywed tystiolaeth gan weithwyr siop o Gymru sy’n haeddu llawer mwy o barch nag y maen nhw’n ei dderbyn,” meddai.

“Mae canlyniadau ein harolwg diweddaraf yn dangos yn glir beth yw maint y trais, bygythiadau a’r gamdriniaeth mae gweithwyr siopau yn ei dderbyn ac yn dangos yr angen am gyfraith i’w hamddiffyn.

“Ar adeg pan ddylen ni i gyd fod yn gweithio gyda’n gilydd yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn, mae’n warth bod staff sy’n gweithio i gadw bwyd ar y silffoedd a chadw siopau’n ddiogel i gwsmeriaid yn cael eu cam-drin.

“Rydyn ni’n dweud yn uchel ac yn glir mai digon yw digon – ddylai camdriniaeth byth fod yn rhan o’r swydd.”