Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cael gwared ar y rheol sy’n atal teithwyr tramor Cymreig rhag defnyddio profion PCR cwmnïau preifat.
Ar hyn o bryd, mae’r rheolau yn dweud bod yn rhaid i deithwyr o Gymru ddefnyddio profion £68 y Gwasanaeth Iechyd ar ôl dychwelyd o dramor.
Fel arall, maen nhw’n wynebu dirwy o £1,000.
Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sy’n mynnu bod teithwyr yn defnyddio profion PCR y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’n rhaid i deithwyr eu defnyddio ar yr ail ddiwrnod wedi dychwelyd o dramor, a’r wythfed os nad yw teithwyr wedi eu brechu’n llawn.
Adolygu
Ym mis Gorffennaf dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, bod “rhesymau da” dros ddefnyddio profion y Gwasanaeth Iechyd yn hytrach na rhai cwmnïau preifat.
Daw’r newyddion bod y Llywodraeth yn adolygu’r polisi wedi i ymchwiliad gan BBC Cymru ddatgelu bod nifer o deithwyr tramor Cymreig wedi llwyddo i ddefnyddio profion PCR preifat.
Ddydd Gwener (27 Awst) cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y bydden nhw’n caniatáu i deithwyr ddefnyddio profion PCR gan gwmnïau preifat ar ôl dychwelyd o dramor.
Roedd Lloegr a Gogledd Iwerddon eisoes wedi cymryd y cam hwn.
Adnabod
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “parhau i adolygu’r sefyllfa o ran profion preifat yng Nghymru”.
“Mae’n allweddol fod unrhyw achosion positif ac unrhyw amrywiolion niweidiol yn cael eu hadnabod cyn gynted â phosib,” meddai.
“Am y rheswm hynny, am y tro, rydyn ni’n ei gwneud hi’n ofynnol bod yr holl brofion yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth Iechyd, fel ein bod ni’n gallu adnabod unrhyw achosion positif cyn gynted â phosib trwy’n system Profi, Olrhain a Diogelu ni.”