Mae merch 17 oed sydd yn yr ysbyty gyda coronafeirws yn dweud ei bod wedi cael ei thargedu gan brotestwyr gwrth-frechlyn ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl annog pobl ifanc i gael y brechlyn.

Dywedodd Maisy Evans ei bod wedi ei chyhuddo o ddweud “celwydd” a’i bod yn “actores sy’n cael ei thalu gan y llywodraeth” gan droliau ar-lein.

Mae Maisy wedi cael symptomau gan gynnwys pendro, diffyg anadl, cur pen, colli arogl a blas, yn ogystal â dioddef tolchen gwaed sy’n gysylltiedig â Covid ar ei hysgyfaint. Profodd yn bositif gyda’r feirws ar 14 Awst, dridiau ar ôl cael ei jab Pfizer cyntaf.

Fodd bynnag, mae meddygon wedi mynnu nad yw ei salwch a’i tholchen gwaed yn gysylltiedig â’r brechlyn.

 

Dywedodd Maisy, o Gasnewydd, wrth Sky News: “Rydw i wedi gorfod delio â llawer o brotestwyr gwrth-frechlyn a damcaniaethwyr cynllwyn sy’n rhwystredig iawn.

“Dwi wedi cael fy ngalw’n gelwyddgi, yn actores sy’n cael ei thalu gan y llywodraeth i wthio rhai agendâu, Satan, Natsï, drwg, a chymaint mwy o bethau.

“Mae’n gwbl ddi-alw amdano.”

Cafodd Maisy ei derbyn i’r ysbyty ar 25 Awst ac ar ôl cael nifer o brofion gwaed, pelydrau-X a sganiau CT, darganfuwyd tolchen gwaed sy’n gysylltiedig â Covid ar ei hysgyfaint dde.

Mae Maisy yn gyn-aelod senedd ieuenctid Cymru ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân.

 

“Nid yw’r feirws hwn yn jôc i bobl ifanc a dylai pawb sy’n gymwys gael eu brechu” medd Maisy Evans

Merch ifanc yn galw ar bobol i barhau i gymryd y feirws “o ddifrif” ar ôl gorfod cael gofal dwys yn yr ysbyty am salwch yn ymwneud â Covid-19