Mae gwerth cyfartalog tai wedi cynyddu bron i £5,000 o fewn mis.

Ar draws y Deyrnas Unedig, roedd pris cyfartalog tai ym mis Awst yn £248,857 – 11% yn uwch na blwyddyn ynghynt, meddai Cymdeithas Adeiladu Nationwide.

Roedd pris cyfartalog tai ym mis Awst £4,628 yn uwch nag ym mis Gorffennaf, pan oedd yn £244,229.

Roedd gwerthoedd eiddo wedi cynyddu 2.1% o fis i fis o ran canran, sef yr ail gynnydd mwyaf dros y 15 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Robert Gardner, prif economegydd Nationwide, fod prisiau tai bellach tua 13% yn uwch nag ar ddechrau’r pandemig coronafeirws.

“Mae’r cynnydd ym mis Awst yn syndod,” meddai.

Awgrymodd y gallai’r cynnydd adlewyrchu’r galw cryf am eiddo sy’n costio rhwng £125,000 a £250,000.

Diffyg

Ychwanegodd Robert Gardner: “Mae diffyg cyflenwad hefyd yn debygol o fod yn ffactor allweddol y tu ôl i gynnydd mewn prisiau ym mis Awst, gydag asiantau tai yn adrodd niferoedd isel o eiddo ar eu llyfrau.

“Mae’r galw sylfaenol yn debygol o leddfu tua thro’r flwyddyn os bydd diweithdra’n codi, fel y mae’r rhan fwyaf o ddadansoddwyr yn ei ddisgwyl, pan fydd cynlluniau cymorth y Llywodraeth yn dirwyn i ben.

“Ond mae hyd yn oed hyn ymhell o fod yn sicr.”

Codi

Dywedodd Gabriella Dickens, uwch economegydd yn Pantheon Macroeconomics: “Mae cyfraddau morgais wedi gostwng yn sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae ganddynt le i ostwng ymhellach.

“Yn unol â hynny, rydym yn credu y bydd prisiau tai yn codi eto yn 2022, gan orffen y flwyddyn tua 4% yn uwch nag ar ddiwedd 2021.”

 

Marchnad dai Gwynedd ymysg y rhai sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig

Nifer yr arolygiadau tai – sy’n cael eu gwneud cyn i ddarpar brynwr brynu tŷ – wedi cynyddu 394.37% yng Ngwynedd ers 2020, yn ôl data Property Inspect