Mae’r farchnad dai yng Ngwynedd yn tyfu’n gyflymach nag yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig, oni bai am Stockport, yn ôl cwmni sy’n datblygu meddalwedd i gadw golwg ar arolygiadau tai.

Fe wnaeth nifer yr arolygiadau tai – sy’n cael eu gwneud cyn i ddarpar brynwyr brynu tai – gynyddu 394.37% yng Ngwynedd rhwng y llynedd ac eleni, yn ôl data Property Inspect.

Hyd yn hyn eleni, mae 351 o arolygiadau wedi cael eu cynnal yng Ngwynedd, o gymharu â 71 yn 2020.

Roedd Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn y pymtheg ardal i weld y twf mwyaf hefyd, gyda chynnydd o 149.06% a 121.15%.

Y cyfartaledd ar gyfer y cynnydd dros y Deyrnas Unedig oedd 11.62%, gyda Gwynedd yn ail i Stockport.

Bu cynnydd o 506.75% yn Stockport ym Manceinion Fwyaf yn y flwyddyn ddiwethaf.

‘Ffynnu’

Yn ôl Warwick Swift, cyfarwyddwr masnachol Property Inspect, mae arolygiadau tai fel arfer yn digwydd gan brynwr cyn llofnodi cytundeb i brynu tŷ, ac mae hynny felly yn awgrymu bod y farchnad yn ffynnu neu am ffynnu’n fuan.

“Mae’r farchnad eiddo wedi bod yn codi a chodi drwy gydol 2020 a 2021 diolch i amodau ffafriol y farchnad a’r egwyl yn y dreth stamp, ac mae’r data sydd wedi’i gasglu gan Property Inspect yn cefnogi hyn,” meddai’r cwmni Property Inspect.

“Gan ddefnyddio data gan ein sampl o arolygwyr, mae’n amlwg fod mwy o arolygiadau tai, ac felly gwerthiannau tai, yn digwydd eleni na’r llynedd.”

Daw hyn wrth i fudiad Hawl i Fyw Adra a thrigolion lleol Llŷn alw eto ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd i weithredu ar ail gartrefi, drwy drefnu ail orymdaith o Nant Gwrtheyrn i Gaernarfon.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio ymgynghoriad er mwyn casglu barn ynghylch newidiadau i drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau yr wythnos ddiwethaf.

Er hynny, mae Cymdeithas yr Iaith wedi’u cyhuddo nhw o “fychanu cymunedau Cymru” yn sgil eu hymgynghoriad.

Pobol leol am gynnal ail orymdaith o Lŷn i Gaernarfon i alw am weithredu ar ail gartrefi

“Ychydig iawn” sydd wedi’i gyflawni ers i drigolion ac aelodau Cyngor Tref Nefyn wneud y daith llynedd, meddai’r mudiad Hawl i Fyw Adra