Mae manylion y fargen sydd wedi’i tharo gan yr SNP a’r Blaid Werdd yn yr Alban wedi cael eu cyhoeddi, wrth i’r Blaid Werdd ddod yn rhan o lywodraeth un o wledydd Prydain am y tro cyntaf erioed.
Nid clymblaid sydd wedi’i ffurfio, ond cytundeb ar feysydd polisi cyffredin.
Mae’r pleidiau’n gytûn ar faterion megis rheoli rhent, hawliau tenantiaid, teithio, ac ynni gwyrdd ac adnewyddadwy.
Maen nhw hefyd wedi cytuno i ddiwygio deddfwriaeth ar hawliau i bobol drawsryweddol er mwyn symleiddio’r broses o gael cydnabyddiaeth gyfreithiol.
Bwriad y fargen, mewn gwirionedd, yw sicrhau annibyniaeth i’r Alban yn y pen draw, y mater mwyaf mae’r ddwy blaid yn gytûn yn ei gylch.
Mae rhai materion wedi’u heithrio o’r fargen, gan gynnwys datgriminaleiddio gwaith rhyw, sy’n un o bolisïau’r Blaid Werdd, a defnyddio Cynnyrch Mewnwladol Crynswth er mwyn mesur cyfoeth economaidd, sy’n bolisi gan yr SNP.
Does dim sôn o gwbl am ariannu llywodraeth leol, sydd wedi arwain at gyhuddiadau nad oes digon o sylwedd yn y fargen.
Mae’r fargen yn ymrwymo’r Blaid Werdd i gefnogi’r SNP mewn pleidleisiau seneddol ar gyllidebau a deddfwriaeth yn y meysydd polisi sydd wedi’u cytuno.
Bydd Patrick Harvie a Lorna Slater, cyd-arweinwyr Plaid Werdd yr Alban, yn derbyn swyddi yng Nghabinet Llywodraeth yr Alban fel rhan o’r fargen sydd yn anelu i greu “Alban annibynnol wyrddach, decach”.
Ail refferendwm annibyniaeth
Mae’r SNP a’r Blaid Werdd, ill dwy, yn anelu am Alban annibynnol, a’u gobaith yw sicrhau ail refferendwm cyn diwedd 2023.
Ond bydd gan y ddwy blaid eu gweledigaeth eu hunain o ran sut olwg fyddai ar Alban annibynnol.
Er y byddai’r Blaid Werdd wedi cefnogi ymgyrch annibyniaeth heb y fargen, mae’n cryfhau’r achos o fewn Senedd yr Alban.
Mae gan Senedd yr Alban hanes o glymbleidio, gyda Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cydweithio gyntaf cyn i’r SNP ennill mwyafrif yn 2011 ar ôl ffurfio llywodraeth leiafrifol yn 2007 ac eto wedyn yn 2016.
Yn 2007, roedd gan yr SNP a’r Blaid Werdd gytundeb i gydweithio, ond doedd y cytundeb hwnnw ddim yn agos at fod yr un mor fanwl â’r fargen newydd hon.
Er i’r Ceidwadwyr gytuno rhwng 2007 a 2011 i gefnogi’r Llywodraeth ar rai materion, nhw bellach yw’r unig blaid yn Holyrood sydd heb gydweithio’n ffurfiol fel rhan o lywodraeth.