Mae Nicola Sturgeon yn mynnu unwaith eto fod ganddi fandad ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth yr Alban.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth yr Alban daro bargen “arloesol” gyda’r Blaid Werdd.
Bydd y cytundeb, sydd bellach wedi’i gymeradwyo gan y ddwy ochr, yn gweld y Blaid Werdd yn rhan o lywodraeth am y tro cyntaf yn unman yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r pleidiau’n gytûn ar faterion megis rheoli rhent, hawliau tenantiaid, teithio, ac ynni gwyrdd ac adnewyddadwy.
Maen nhw hefyd wedi cytuno i ddiwygio deddfwriaeth ar hawliau i bobol drawsryweddol er mwyn symleiddio’r broses o gael cydnabyddiaeth gyfreithiol.
Bwriad y fargen, mewn gwirionedd, yw sicrhau annibyniaeth i’r Alban yn y pen draw, y mater mwyaf mae’r ddwy blaid yn gytûn yn ei gylch.
Mae rhai materion wedi’u heithrio o’r fargen, gan gynnwys datgriminaleiddio gwaith rhyw, sy’n un o bolisïau’r Blaid Werdd, a defnyddio Cynnyrch Mewnwladol Crynswth er mwyn mesur cyfoeth economaidd, sy’n bolisi gan yr SNP.
‘Ni ellir gwadu’r mandad’
“Ni ellir gwadu’r mandad ar gyfer hynny (cynnal ail refferendwm) – rhyngom ni, mae’r SNP a’r Gwyrddion yn dal 72 o’r 129 sedd yn y Senedd hon ac etholwyd pob un ohonom ar ymrwymiad i refferendwm annibyniaeth,” meddai Nicola Sturgeon.
“Rhaid i’r penderfyniadau a fydd yn siapio ein cymdeithas a’n heconomi a’n lle yn y byd gael eu penderfynu, yn ddemocrataidd, yma yn yr Alban ac nid eu gorfodi arnom, mor aml yn erbyn ein hewyllys, gan y llywodraeth yn San Steffan.”
Pwysleisia nad yw’r cytundeb rhwng y ddwy blaid yn glymblaid lawn, gan fynnu y bydd yr SNP a Gwyrddion yr Alban yn “cadw lleisiau penodol a hunaniaethau annibynnol”.
“Clymblaid genedlaetholgar”
Mae Douglas Ross, arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, yn galw’r cytundeb yn “glymblaid genedlaetholgar gydag un nod pennaf – gwahanu’r Alban o’r Deyrnas Unedig”.
“Unwaith eto, mae refferendwm ymrannol wedi dod yn gyntaf, fel y mae bob amser yn ei wneud gyda’r llywodraeth hon,” meddai.
“Unwaith eto mae’r SNP wedi cael eu blaenoriaethau i gyd yn anghywir.
“Nid cytundeb sy’n gweithio i’r Alban yw hwn. Mae hwn yn gytundeb sy’n gweithio i Nicola Sturgeon.
“Methodd â chael mwyafrif ac mae’r cytundeb hwn yn ganlyniad i hynny.”
Yn y cyfamser, dywed Anas Sarwar, arweinydd Llafur yr Alban, fod y “cytundeb clymblaid hwn – a dyna ydi o – yn ffurfioli’r cytundeb gan y senedd ddiwethaf lle mae Nicola Sturgeon a’r SNP yn taro ein gwasanaethau cyhoeddus gyda thoriadau a’r Gwyrddion yn ei nodi.”