Mae dynes wedi gwadu llofruddio dyn mewn eiddo yng Nghei Connah.

Aeth Emma Berry gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo fore heddiw (dydd Mawrth, Awst 31).

Mae’n gwadu llofruddio Dean Michael Bennett, 31, ar Fai 22.

Mae disgwyl i’r achos bara pythefnos, ac fe fydd yn dechrau ar Ragfyr 6.

Logo'r heddlu yn erbyn cefndir du

Cyhuddo dynes, 46, o lofruddio dyn, 31, yng Nghei Connah

Emma Berry wedi’i chyhuddo o lofruddio Dean Michael Bennett yn dilyn digwyddiad ddydd Sadwrn (Mai 22)