Mae dyfeisiwr gêm fwrdd Gymraeg newydd yn gobeithio y bydd hi’n “sbarduno pobol i siarad mwy o Gymraeg gartref”.

Bydd HYDERUS?, sef addasiad Cymraeg o’r gêm CONFIDENT?, yn cael ei lansio ddydd Gwener nesaf (Medi 10).

Mae’r fersiwn newydd ddwyieithog yn cynnwys cwestiynau cwbl newydd, eu hanner nhw’n ymwneud â Chymru a’r Gymraeg ac felly’n rhoi’r cyfle i fwy o bobol ddysgu am y wlad a’r iaith.

Yn ôl Ceri Price, cyfarwyddwr cwmni Confident Games, bydd y gêm yn bwysig i ddysgwyr ac yn rhoi’r cyfle i rywun chwarae, sgwrsio a gwneud popeth drwy’r Gymraeg.

“Popeth yn Gymraeg”

“Ni wedi bod yn meddwl amdano ers cwpwl o flynyddoedd, ac fe wnaethon ni sampl Cymraeg y flwyddyn ddiwethaf ar ein gwefan jyst fel bod pobol yn gallu trial ma’s a chwarae’r gêm yn Gymraeg,” meddai Ceri Price, sy’n wreiddiol o Lanelli ond yn byw yn Llundain, wrth golwg360.

“Gaethon ni gannoedd o bobol yn trial e ma’s, ac roedd hynna wedi rhoi’r hyder i ni fynd ymlaen gyda fersiwn Gymraeg.

“Roedd e’n edrych fel bod lot o bobol gyda diddordeb, dysgwyr Cymraeg, ac yn rili mo’yn rhywbeth fel hyn i ddysgu ac ymarfer.

“Rhoddodd e’r hyder i ni fynd ymlaen gydag e.

“Does dim lot fel hyn ar gael, os chi mo’yn chwarae gêm fwrdd Gymraeg mae cwpwl ohonyn nhw, gemau fel Scrabble a rhai poblogaidd fel Monopoly wedi cael eu cyfieithu.

“Ond does dim lot ble maen nhw yn y Gymraeg, a chi’n dysgu am Gymru’r un pryd.

“Roedden ni’n meddwl, pan rydyn ni’n dathlu’r Nadolig gyda teulu ni ac yn siarad Cymraeg, rydych ni’n chwarae gemau fel Articulate ac mae popeth yn Saesneg.

“Felly mae’n grêt i gael rhywbeth lle rydych chi’n gallu chwarae a sgwrsio a gwneud popeth yn gyfangwbl yn y Gymraeg.

“Gobeithio bydd pobol yn rili mwynhau e, ac y bydd e’n sbarduno pobol i siarad mwy o Gymraeg gartref achos mae’r gêm yn ddwyieithog – Cymraeg a Saesneg.

“Rydych chi’n gallu chwarae gyda phobol sydd ddim yn siarad Cymraeg hefyd, a fysa nhw’n dysgu am y Gymraeg a Chymru’r un pryd.”

“Ffres a gwahanol”

Mae’r gêm i dri neu fwy o bobol yn gofyn i gystadleuwyr ddyfalu’r atebion i gyfres o gwestiynau drwy ddyfalu amrediad o atebion.

Er enghraifft, pe bai’r cwestiwn yn gofyn beth yw maint yr adeilad mwyaf yn y byd mewn metrau, byddai gofyn i’r cystadleuwyr roi’r maint lleiaf (e.e. 750 metr) a’r maint mwyaf posib (e.e. 850 metr), yn ogystal â nodi’r gwahaniaeth rhwng y ddau rif (e.e. 100 metr).

Mae cystadleuwyr yn ennill pwyntiau yn dibynnu pa mor agos ydyn nhw at yr ateb cywir neu o fewn yr amrediad cywir.

“Mae tua 200 cwestiwn yn y gêm, mae tua hanner nhw am Gymru a’r wedyn mae’r hanner arall yn gwestiynau sy’n gwbl newydd i’r fersiwn yma, ond bach mwy broad fel ‘Sawl dant sydd gan grocodeil?” meddai Ceri Price wedyn.

“Doedden ni ddim mo’yn gwneud yr holl gwestiynau am Gymru, yr adborth gaethon ni gan bobol oedd bo nhw mo’yn tipyn bach o gymysgedd pan wnaethon ni’r sampl Cymraeg.

“Roedd pobol yn dweud eu bod nhw’n hoffi lot o gwestiynau am Gymru ond efo cwestiynau eraill i gadw fo’n ffres a gwahanol.”

Mewnbwn

Mae’r holl gwestiynau yn “gwbl newydd” ar gyfer y fersiwn newydd, gyda nifer o’r cwestiynau wedi dod gan ddisgyblion ysgolion Cymru.

“Mae tua 20 cwestiwn yn y gêm wedi dod o ysgolion ar draws y wlad – fe wnaethon ni gystadleuaeth ddechrau’r flwyddyn ac roedd pobol yn gallu awgrymu cwestiynau i’r gêm,” eglura Ceri Price.

“Wedyn gaethon ni tua 500 awgrymiad, rhan fwyaf ohonyn nhw gan ddisgyblion ond rhai gan bobol gyffredin ar draws y wlad.

“Wedyn rydyn ni wedi pigo 20 cwestiwn i roi yn y gêm derfynol, a byddan nhw’n cael copïau am ddim a’r ysgolion yn cael copïau am ddim,” meddai gan ddweud bod eu henwau nhw wrth y cwestiynau.

Yn ogystal â phlant ysgol, mae selebs Cymraeg wedi rhoi mewnbwn i’r gêm hefyd.

Mae rhai siopau llyfrau Cymraeg yn gwerthu’r gêm eisoes er mwyn “helpu siopau bach, lleol” i ddechrau, ond bydd y gêm ar gael ar wefan y cwmni, mewn siopau teganau a gemau, ac yn eu siop pop-up yn John Lewis yng Nghaerdydd rhwng Medi 10-12.

Dyfeisiwr gêm fwrdd yn ‘HYDERUS?’ bydd y fersiwn Gymraeg yn llwyddiant

“Mae e werth y risg oherwydd gallai fod yn wych i’r iaith Gymraeg,” meddai perchennog cwmni Confident Games