Wrth i gynhyrchiad cyffrous gan bobl ifanc y Gogledd-orllewin agor i’r cyhoedd, cafodd Nici Beech gyfle am sgwrs gyda Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen am y prosiect ac am gynlluniau’r cwmni ar gyfer eu cartref newydd, Nyth.

Roedd naws debyg i ŵyl Ffrinj Caeredin ym Mangor ar ddydd Sadwrn Awst 28ain wrth i griw o bobl ifanc rannu taflenni hysbysebu lliwgar yn gwahodd pobl i ddod i weld eu gwaith.