Mae disgwyl i’r Llywodraeth amlinellu cynlluniau ar gyfer brechlyn “atgyfnerthu” heddiw (14 Medi) wrth i weinidogion gyhoeddi manylion ar gyfer “byw gyda’r firws” yn ystod misoedd y gaeaf.
Y disgwyl yw y bydd pawb dros 50 oed yn cael cynnig trydydd dos o’r brechlyn – gan ddechrau gyda phobl dros 70 oed a’r rhai sy’n fwy agored i’r firws.
Fe fydd y dos o’r brechlyn Pfizer/BioNTech yn cael ei roi o leiaf chwe mis ar ôl yr ail ddos yn dilyn pryderon nad yw’r amddiffyniad mor gryf ymhlith pobl oedrannus dros gyfnod o amser.
Mae gweinidogion yn credu y bydd yn helpu i sicrhau nad yw’r Gwasanaeth Iechyd dan ormod o bwysau dros yr hydref a’r gaeaf yn sgil cynnydd mewn achosion newydd.
Serch hynny, mae’r cynllun wedi cael ei feirniadu gan rai gwyddonwyr sy’n dadlau mai’r flaenoriaeth nawr yw cael y brechlyn i’r gwledydd hynny sydd wedi derbyn ychydig iawn o’r brechlynnau.
Yn gynharach fe gadarnhaoedd Downing Street bod gweinidogion wedi derbyn cyngor ynglŷn a’r mater gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwnedd a Brechu (JCVI).
Fe fydd yr Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid yn amlinellu’r manylion pan fydd yn datgelu cynllun Covid y Llywodraeth ar gyfer Lloegr dros y gaeaf mewn datganiad yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, 14 Medi).
Roedd disgwyl i Boris Johnson gynnal cynhadledd newyddion yn Downing Street yn ddiweddarach ond nid yw’n glir a fydd yn gwneud hynny yn dilyn marwolaeth ei fam, Charlotte Johnson Wahl, ddoe (dydd Llun, 13 Medi).
Mae’r Prif Weinidog yn benderfynol o osgoi cyfnod clo arall, ond mae wedi rhybuddio bod y “pandemig ymhell o fod drosodd.”
Mae’n fwy tebygol y bydd gweinidogion yn galw am wisgo mygydau unwaith eto mewn mannau cyhoeddus ac yn cynghori pobl i weithio gartref os yw achosion yn cynyddu eto.
Daw hyn ar ôl i’r Llywodraeth gyhoeddi ddydd Llun y bydd y brechlyn Pfizer/ BioNTech yn cael ei gynnig i blant rhwng 12 a 15 oed yn Lloegr. Mae disgwyl penderfyniad gan Lywodraeth Cymru heddiw.