Mae nifer y bobol sydd mewn gwaith yn y Deyrnas Unedig wedi cynyddu i’r un lefelau â chyn y pandemig, yn ôl ystadegau newydd.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, cynyddodd nifer y bobol ar restrau cyflogaeth 241,000 rhwng Gorffennaf ac Awst, y naid fwyaf ers 2014.

Erbyn hyn, mae 1,000 o bobol yn fwy mewn gwaith na chyn y pandemig.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod graddfa diweithdra wedi gostwng eto hefyd, i 4.6%, gan gyd-fynd â’r rhagfynegiadau.

Yn y cyfamser, mae nifer y swyddi gwag wedi codi i dros filiwn am y tro cyntaf ers i gofnodion ddechrau yn sgil prinder staff yn rhai o brif ddiwydiannau’r Deyrnas Unedig.

“Ddim yn hafal”

“Mae amcangyfrifon cynnar o’r data rhestrau cyflogaeth yn awgrymu bod cyfanswm cyflogai ym mis Awst ar tua’r un lefel â chyn y pandemig, er bod ein harolygon yn dangos bod dipyn dros filiwn o bobol dal ar ffyrlo,” meddai Jonathan Athow, o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Fodd bynnag, dydi’r adferiad hwn ddim yn hafal: mewn ardaloedd sydd wedi’u taro’n galed fel Llundain, a sectorau fel lletygarwch a’r celfyddydau a hamdden, mae nifer y gweithwyr yn parhau i fod yn dipyn is na’r lefelau cyn y pandemig.

“Mae’r raddfa gyflogaeth yn parhau i adfer ar y cyfan, yn enwedig ymysg grwpiau megis gweithwyr ifanc a gafodd eu taro’n galed ar ddechrau’r pandemig, tra bod diweithdra wedi gostwng.”

Fe wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddweud bod “cynnydd cryf” mewn cyfraddau gweithio ymysg pobol 16 i 24 oed, ynghyd â gostyngiad yn y cyfraddau diweithdra a segurdod economaidd.

Swyddi gwag

Cafodd pobol ifanc eu heffeithio gan ddiweithdra wedi i sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden gael eu taro gan y pandemig.

Dangosa’r ystadegau diweddaraf bod cynnydd sylweddol wedi bod yn y diwydiannau hyn wrth iddyn nhw gyfrannu at nifer y swyddi gwag.

Roedd 1,034,000 o swyddi gwag yn y Deyrnas Unedig rhwng Mehefin ac Awst, gyda’r diwydiannau llety a gwasanaethau bwyd yn gweld cynnydd o 75.4% yn nifer y swyddi oedd angen eu llenwi.

Yn ôl Jonathan Athow, y sector lletygarwch sydd â’r “gyfran uchaf o gyflogwyr yn dweud ei bod hi’n anodd llenwi swyddi gwag”.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod cynnydd mewn twf cyflogau’n parhau, gydag elwon, gan gynnwys gwobrwyon, yn codi 8.3% yn y tri mis hyd at fis Gorffennaf o gymharu â’r un cyfnod llynedd.

“Mae’r ystadegau heddiw’n dangos bod ein cynllun ar gyfer swyddi yn gweithio – mae’r raddfa diweithdra wedi gostwng am saith mis yn olynol, mae nifer y cyflogai ar restrau cyflogaeth yn ôl i lefelau cyn y pandemig, a chafodd llai o ddiswyddiadau posib eu hadrodd yn ystod mis Awst nag ar unrhyw bwynt ers dechrau llynedd,” meddai’r Canghellor, Rishi Sunak.

“Wrth i ni barhau i adfer wedi’r pandemig, rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar greu cyfleoedd a chefnogi swyddi pobol.”