Ni chafodd person ifanc oedd yn gadael gofal “gefnogaeth ddigonol” wedi i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr fethu â chynllunio’n effeithiol ar ei chyfer.

Lansiodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwiliad ar ôl cael cwyn gan ofalydd maeth Ms G, sef Ms F, nad oedd yr awdurdod lleol wedi rheoli trefniant digonol.

Cwynodd Ms F nad oedd y Cyngor, drwy fethu ag egluro ei statws fel gofalwr maeth na sicrhau cefnogaeth i gynnal y trefniant, wedi rhoi digon o gefnogaeth i Ms G wrth iddi adael gofal.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod methiant y Cyngor i gynllunio’n effeithiol wrth i Ms G adael gofal wedi golygu na chafodd gyfle i gael trefniant byw trosiannol gydag adnoddau addas.

Gallai hynny fod wedi gwella ei chyfleoedd mewn bywyd, meddai.

Nododd hefyd fod methiannau’r Cyngor wedi achosi i’r ofalwraig, Ms F, ddioddef caledi ariannol, a oedd yn rhoi pwysau diangen ar ei pherthynas â’i phlentyn maeth.

Yn ogystal, ni wnaeth y Cyngor roi sylw dyledus i hawl y ddwy i barch at fywyd preifat a theuluol, eu cartref a’u gohebiaeth yn unol â’r Ddeddf Hawliau Dynol.

Ar ben hynny, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon bod y Cyngor, wrth ymateb i’r cwyn gwreiddiol gan Ms F, wedi methu â chadw at ganllawiau ynghylch delio â chwynion.

Doedd yr ymchwiliad cychwynnol heb ei gydbwyso, a rhoddodd yr argraff ei fod yn “unochrog”, meddai.

“Achos dychrynllyd”

“Mae hwn yn achos dychrynllyd lle’r oedd catalog o fethiannau gan yr awdurdod lleol yn golygu bod person ifanc a oedd yn gadael gofal, a’r gofalwr maeth, yn mynd heb y gefnogaeth yr oedd ganddyn nhw hawl iddi,” meddai Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

“Mae’r methiannau hyn yn fwy siomedig fyth o ystyried bregusrwydd parhaus Ms G, ei statws gadael gofal a’r egwyddorion ymarfer y disgwylir i Awdurdodau Lleol eu dilyn wrth wneud penderfyniadau am bobl ifanc sy’n gadael gofal.

“Methwyd â rhoi trefniant clir ar waith ar gyfer symud y person ifanc hwn o ofal a phontio i fod yn oedolyn, sy’n esgeulustod clir o ddyletswydd gofal y Cyngor. Ar ben hynny, roedd y dogfennau cysylltiedig yn ddiffygiol, a deliwyd â chŵyn wreiddiol Ms F yn wael, a oedd ond yn ychwanegu at y straen a’r pryder a ddioddefodd Ms G a Ms F.”

Argymhellion

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ymddiheuro i’r ddwy, a gofynnodd i’r cyngor dalu £8,500 yr un iddyn nhw.

Mae’r Cyngor wedi cytuno ar sawl argymhelliad, gan gynnwys creu adolygiad llawn o’r dogfennau cynllunio llwybr ar gyfer pawb sy’n gadael gofal.

Bydden nhw hefyd yn darparu hyfforddiant cynllunio llwybr i’r staff, a hyfforddiant ar ystyriaethau hawliau dynol a’u goblygiadau wrth weithio â phobol ifanc sy’n gadael gofal.

Fe fydden nhw’n ffurfio adolygiad llawn o’r dull o ymdrin â chwynion hefyd, ac mae’r Ombwdsmon yn falch o nodi bod y Cyngor wedi dweud y bydd yn parhau i ddarparu cefnogaeth i Ms G.